Ci Defaid Cymreig

(Ailgyfeiriad o Y Ci Defaid Cymreig)

Ci defaid sy'n frodorol o Gymru yw'r Ci Defaid Cymreig a fridiwyd yn y gorffennol i warchod eu praidd rhag bleiddiaid yn ogystal â hel a didoli y defaid ac anifeiliaid eraill. Ceir disgrifiad o gi defaid yn chwedl Culhwch ac Olwen: gafaelgi blewog... yn fwy na cheffyl nawmlwydd.

Ci Defaid Cymreig
Enghraifft o'r canlynolbrîd o gi Edit this on Wikidata
Mathci Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ci Defaid Cymreig

Mae'r enw 'Ci Defaid Cymreig' bellach yn cyfeirio at un math o gi, ond ceir sawl math arall o gŵn defaid yng Nghymru gan gynnwys dau gi a oedd yn gyffredin iawn yng Nghanolbarth Cymru: y ci du a melyngoch, y ci mynydd Cymreig coch neu lwydlas a oedd yn gi enfawr, cryf. Ci defaid arall oedd y ci llwyd hirflew Cymreig a deithiodd i Batagonia (y Barboucho), ac a oedd yn cael ei ddefnyddio'n helaeth gan y porthmyn i yrru gwartheg, defaid, moch, gwyddau o ffermydd Cymru i farchnadoedd y Gororau. O tua'r 1860au disodlwyd y Cŵn defaid Cymreig gan rai Albanaidd ac aethant yn brin.[1] Croesfridiwyd llawer ac nid oedd achrestri (neu gofrestr llinach) yn bod. Ffurfiwyd Cymdeithas Cŵn Defaid Cymraeig yn 1997 er mwyn unioni'r cam hwn a'u gwarchod. Yn wahanol i gi defaid gororau'r Alban, fodd bynnag, mae'r ci defaid Cymreig yn gweithio gyda'i gynffon i fyny a'i drwyn i lawr, ac mae'n cyfarth o'i liwt eu hun pan fo angen gyrru'r praidd yn ei flaen.[2]

Disgrifiad golygu

O ran golwg mae'n gi canolig ei faint ac yn gymesur. Gall eu blew fod yn llyfn neu'n arw ac yn ddu ei liw, du-a-brown, coch neu'n gymysgedd brych gyda marciau gwyn ar adegau. mae golwg effro a gwyliadwrus arnynt gan amlaf, maent yn fywiog ac yn hynod o ddeallus. Maent yn gŵn gwarcheidiol rhagorol, sy'n cyfarth pan ddaw dieithryn i'w gynefin, ond fel arfer maent yn dawel ac yn dda gyda phlant.

Gall fyw am rhwng 12–15 o flynhyddoedd. Mae'n amrywio yn ei faint: rhwng 18 modfedd (46 cm) o daldra, a gall ci o Ogledd Cymru bwyso tua 35 pwys (16 kg) a chi o Forgannwg bwyso 40 - 45 pwys (18 - 20 kg).

Cŵn Defaid Glas Cymreig golygu

 
Cŵn Defaid Glas Cymreig ar ddiwrnod sefydlu'r Gymdeithas.

Sefydlwyd Cymdeithas Cŵn Defaid Glas Cymreig yn 1963.

Cyfeiriadau golygu

  1. Gweler Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; 2008
  2. welshsheepdogsociety.com; Archifwyd 2010-12-03 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 19 rhagfyr 2015

Dolenni allanol golygu