Gŵydd
Gŵydd Amrediad amseryddol: Mïosen Hwyr-Holosen, 10–0 Miliwn o fl. CP | |
---|---|
Gŵydd Canada, Branta canadensis | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Uwchurdd: | Galloanserae |
Urdd: | Anseriformes |
Teulu: | Anatidae |
Is-deulu: | Anserinae |
Llwyth: | Anserini |
Genera | |
Aderyn y dŵr ydy'r ŵydd, sy'n perthyn i'r llwyth biolegol a elwir yn Anserini yn nheulu'r Anatidae. Mae'r llwyth hwn yn cynnwys y genera Anser (y gwyddau llwydion), Branta (y gwyddau duon) a'r Chen (y gwyddau gwynion). Un o berthnasau'r ŵydd (o bell), sy'n yr un teulu, Anatidae, yw'r alarch, sy'n rhywogaeth mwy na'r ŵydd a'r hwyaden, sy'n llai ei faint. Mae'n aderyn cyfandroed a gelwir gŵydd wrywaidd yn glagwydd.
Geirdarddiad
golyguFel y gair Saesneg "goose", a'r Almaeneg Uchel "guoske" tarddiad Proto-Indo-Ewropeg sydd i'r gair "gŵydd". "Gé" yw'r Wyddeleg a "ghāz" ym Mhersieg, pob un yn ddigon tebyg i'r Gymraeg.[1][2] "Gé" yw'r Wyddeleg, "guit" mewn Hen Gernyweg, "gwaz" (Llydaweg diweddar, "géd" (Hen Wyddeleg. Mae'n ddigon tebyg, fod y gair yn tarddu o sŵn clebar yr aderyn: "gha gha" yw'r gair mewn Gwyddeleg diweddar. Yn Ne Cymru arefrid galw'r gwyddau, i'w bwydo, gan weiddi arnynt: "Gis, gis gis, giso bach!".
Ymddengys y gair yn gyntaf mewn ysgrifen yn y Gymraeg yn y 13g, mewn dwy lawysgrif: Llyfr Du Caerfyrddin (Boed emendiceid ir guit) ac yn Y Llyfr Du o'r Waun (er uyt or). Ychydig yn ddiweddarach, ceir cofnod yn Llyfr Blegywryd, sef un o'r tri dull taleithiol ar Gyfraith Hywel (Y neb a gaffo gwydeu yn y ty). Sonia Dafydd ap Gwilym hefyd am yr ŵydd (Ac ogylch Castell Gwgawn, / Gogwydd cyw gŵydd lle câi gawn.)
Dofi a bridio
golyguNi wyddys ym mhle y dofwyd yr ŵydd yn gyntaf, naill ai yn ne-ddwyrain Ewrop neu yn yr Aifft o bosib. Mae hefyd yn bosib iddynt gael eu magu yn y ddau le ar yr un pryd, yn annibynnol i'w gilydd. O'r Ŵydd Eifftaidd mae gwyddau de-ddwyrain Ewrop yn tarddu, ac o'r Ŵydd Wyllt mae gwyddau Ewrop (neu'r Anser anser) yn tarddu. Bridiwyd llawer o fathau gwahanol o wyddau o'r ŵydd wyllt wreiddiol, gan gynnwys: Toulouse, Embden, Steinbacher, Pilgrim, y Byff Americanaidd a'r brid Cymreig, sef Byff Brycheiniog (Brecon Buff). Porai miloedd o wyddau ar fynyddoedd Cymru erbyn y 18g, yn enwedig ar dir comin. Ceir tystiolaeth weledol o hyn mewn hen waliau sych, lle ceir weithiau 'dyllau gwyddau' yn enwedig mewn waliau terfyn y comin. Arferid gosod basged yn y cilfachau er mwyn i'r gwyddau gael lle diddos i nythu.[3]
Y porthmon gwyddau
golyguGwaith y Porthmon Gwyddau oedd eu cerdded o gefn gwlad i'r marchnadoedd yn y trefi, gan deithio tua chwe milltir y diwrnod - gwaith digon araf. Arferid trochi'r traed mewn pyg (pitch) meddal ac yna mewn tywod neu ro mân, er mwyn eu hamddiffyn rhag anafiadau ar y ffyrdd caregog.
Y Nadolig
golyguRoedd eu niferoedd ar eu huchaf yn y 19g, oherwydd y galw am eu cig ar fwrdd y Nadolig.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Partridge, Eric (1983). Origins: a Short Etymological Dictionary of Modern English. New York: Greenwich House. tt. 245–246. ISBN 0-517-414252.
- ↑ Crystal, David (1998). The Cambridge Encyclopedia of Language. ISBN 0-521-55967-7.
- ↑ Fferm a Thyddyn; Calan Gaeaf 2015; Rhif 56