Papur newydd wythnosol ceidwadol a gyhoeddwyd yn y Gymraeg yn bennaf oedd y Y Clorianydd. Fe'i lansiwyd ar 13 Awst 1891 a daeth i ben ar 30 Mawrth 1921 (gyda rhif 1572); mae 782 rhifyn ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol.[1]

Y Clorianydd
Enghraifft o'r canlynolpapur wythnosol Edit this on Wikidata
Rhan oPapurau Newydd Cymreig Ar-lein Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi13 Awst 1891 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1891 Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiLlangefni Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata

Roedd ei gylchrediad yn bennaf yn Ynys Môn, Lerpwl a Manceinion. Cofnodai hanes lleol a chyffredinol. Ymhlith ei olygyddion bu Hugh Edwards ac Owen Edward Jones (1871-1953). Cyhoeddwyd gan David Williams, Bangor (tua 1897-), J.A. Williams, Llangefni (o tua 1895-1900) a'r North Wales Chronicle Co. Ltd., Bangor o 1900 ymlaen.

Gweler hefyd golygu

  • Clorianydd a'r Gwalia (1921-1969)

Cyfeiriadau golygu

  1. papuraunewydd.llyfrgell.cymru; Gwefan y Llyfrgell Genedlaethol.