Cerdd Gymraeg gan D. Gwenallt Jones yw "Y Coed" sydd yn ymwneud â'r Holocost. Hon yw cerdd olaf Gwenallt, a gyfansoddwyd yn ei salwch olaf.[1]

Cynnwys golygu

Yn y gerdd hon, amlygir casineb y bardd tuag at ryfel. Yn y cwpledi cyntaf mae'r bardd yn datgan ei deimladau cryf dros y gamdriniaeth erchyll a ddioddefodd yr Iddewon yn yr Ail Ryfel Byd, ar ôl ei ymweliad â Choedwig y Merthyron, ar gyrion Jeriwsalem, ar ei daith i Israel. Fe noda'n syth y nifer o bobl a phlant a laddwyd gan y Natsïaid, sef "Chwe miliwn". Nid yw Gwenallt yn un i wastraffu geiriau yn y cwpled cyntaf, cawn wybod yn syth sut y bu rhain farw, sef wrth eu llosgi "yn y ffyrnau nwy". Creir delwedd yma o'r coed fel cofgolofnau, a'u canghennau yn ymestyn allan, a'u gwreiddio'n treiddio drwy'r ddaear i'r fan lle bu'r ffyrnau. Ni chladdwyd yr Iddewon hyn yn y ffordd sy'n deilwng, ac o'r herwydd mae'r hunllefau, y boen a'r artaith yn dal yn fyw, ac yn dal i atseinio drwy'r canghennau.

Deallwn serch hynny, er i'r Iddewon a oroesodd blannu'r coed, nid ydynt fel cenedl yn gwbl ddieuog. Na, fe losgwyd pentrefi'r Arabiaid ganddynt hwy. Yna ceir cwestiwn syml yn gofyn pam na phlannwyd coed gan yr Arabiaid hyn felly? Dadl Gwenallt yn y gerdd, yw na allwn gondemnio'r Natsïaid na'r Israeliaid am eu gweithredoedd, gan y bu i'r Cynghreiriaid yn yr Ail Ryfel Byd droi Dresden "yn un uffern faith", a gollwng dau fom niwclear yn ogystal ar Japan. Mae ein gweithredoedd ni lawn cyn-ddrwg â'u gweithredoedd nhw. Mae pawb yn euog tra bo rhyfel yn destun trafod.

Fe noda Gwenallt, mewn cwpled digon oeraidd ei naws tua chanol y gyfres mai'r ganrif hon yw'r fwyaf "barbaraidd". Fe awgryma'r term barbaraidd rhyw ladd mewn gwaed oer, brwnt, arswydus. Yna fe â Gwenallt ymlaen i ragweld y dyfodol,a phroffwydo y bydd y ganrif nesaf yn waeth eto oherwydd yr holl ddatblygiadau technolegol. Fe broffwyda trydydd rhyfel byd—rhyfel niwclear—a phryd hynny, ni fydd hi'n bosibl cyfri'r meirwon.

Wedi iddo bwysleisio'r erchyllderau, a defnyddio cyflythreniad i gyfleu oerni'r sefyllfa sef y caiff pobl eu llosgi i farwolaeth ("lladdedigion llosg") try'r bardd yn ôl at y chwe miliwn o goed, ac at Grist. Yr awgrym yma yw mai Iesu yn unig sydd wedi byw bywyd yn y ffordd gywir, a'i fod Ef ei hun hyd yn oed wedi ei groeshoelio. Mae'r bardd am i ni i gyd fabwysiadu agwedd Gristnogol, a pheidio mynd i ryfel. Ni allwn anghofio'r creulondeb a'r lladd a fu. Er i natur lwyddo i newid lliw y coed, haf a gaeaf, ni ellir cuddio'r hyn y maent yn ei gynrychioli: fe ddaw plant ein plant i wybod hyn.

Mesur golygu

Mae'r gerdd hon yn y mesur rhydd: nid oes cynghanedd ynddi. Serch hynny, mae yna fydr, neu rythm pendant i'r gerdd, ac fe geir odl ym mhob cwpled. Mae mesur y cwpledi yn fesur trwm iawn, bwriad hyn yw i gyfleu erchylldra'r digwyddiadau.

Arddull golygu

Ceir yma nifer o ansoddeiriau effeithiol i gyfleu'r lladd anwaraidd. Mae ailadrodd y ffigwr chwe miliwn yn rhoi pwyslais ar y nifer a laddwyd.

Neges y gerdd golygu

Prif neges y gerdd hon yw fod pawb ar fai, mae pawb yn euog. Ceir yma ddadl gref dros heddychaeth, sef nad oes gan neb yr hawl i ladd.

Cyfeiriadau golygu

  1. Brynley Francis Roberts (2001). "Jones, David James ('Gwenallt'; 1899-1968), poet, critic and scholar". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 15 Mawrth 2022.