Y Comisiwn Annibynnol ar Ariannu a Chyllid i Gymru
Sefydlwyd Comisiwn Annibynnol ar Ariannu a Chyllid i Gymru, roedd hefyd yn cael ei adnabod fel y Comisiwn Holtham, gan Rhodri Morgan (Prif Weinidog Cymru), Ieuan Wyn Jones (Dirprwy Brif Weinidog Cymru a'r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth) ac Andrew Davies (Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus), o Lywodraeth Cynulliad Cymru[1]. Prif orchwyl y Comisiwn oedd edrych ar y dyraniad presennol o wariant cyhoeddus i Lywodraeth Cymru trwy Fformiwla Barnett, fformiwla sydd wedi cael ei beirniadu sawl gwaith am fod yn annheg i Gymru (gan Blaid Cymru er enghraifft[2]). Gorffennodd y Comisiwn ei waith ym mis Gorffennaf 2010.
Cylch gorchwyl y Comisiwn oedd:
- edrych ar fanteision ac anfanteision y dull a ddefnyddir ar hyn o bryd i ddosbarthu adnoddau gwariant cyhoeddus i Lywodraeth Cynulliad Cymru; a
- chanfod ffyrdd gwahanol o gyllido gan gynnwys y posibilrwydd y gallai Llywodraeth Cynulliad Cymru gael pwerau amrywio trethi yn ogystal â mwy o bwerau benthyg arian.
Aelodau’r Comisiwn oedd:
- Gerald Holtham (Cadeirydd), Partner Rheoli Cadwyn Capital LLP ac Athro Gwadd yn Ysgol Fusnes Caerdydd.
- David Miles, aelod o Bwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr ac Athro gwadd ym maes Economeg Ariannol yng Ngholeg Imperial Llundain.
- Paul Bernd Spahn, Athro Emeritws ym Mhrifysgol Goethe, Frankfurt am Main a Chynghorydd Macro Gyllid i lywodraethau ledled y byd.
Amserlen
golyguDechreuodd y Comisiwn ei waith yn yr hydref yn 2008 a gyhoeddoedd ei adroddiad cyntaf yng Ngorffennaf 2009 [3]. Trafodwyd yr adroddiad yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar 13 Hydref 2009.
Cyhoeddodd ei adroddiad terfynol yng Ngorffennaf 2010.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyhoeddiad i’r wasg gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn cyhoeddi’r Comisiwn[dolen farw]
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-05-19. Cyrchwyd 2009-01-15.
- ↑ Cyhoeddiad i'r wasg yn cyhoeddi adroddiad cyntaf y Comisiwn