Y Cyfarwydd (nofel)

CNofel gan Gwen Pritchard Jones yw Y Cyfarwydd a gyhoeddwyd yn 2014 gan Wasg Carreg Gwalch. Man cyhoeddi: Llanrwst, Cymru.[1]

Y Cyfarwydd
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurGwen Pritchard Jones
CyhoeddwrGwasg Carreg Gwalch
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi15/07/2014
ArgaeleddAr gael
ISBN9781845274313
GenreFfuglen

Nofel gyfoes sy'n plethu hiwmor deifiol â chwedlau a straeon traddodiadol Cymru. Doedd Dyfrig ddim yn siŵr iawn beth i'w ddisgwyl pan gafodd ei dderbyn fel cystadleuydd ar raglen realaeth i ddewis sgriptwyr ar gyfer ffilm am hanes Cymru. Chwe wythnos yng nghwmni dieithriaid, heb gyswllt â'r byd y tu allan, yn cael ei ffilmio gydol yr amser...

Un o Dalysarn, Dyffryn Nantlle yw Gwen Pritchard Jones. Mae bellach yn byw ym Mhantglas, Eifionydd. Bu’'n gweithio mewn sawl maes ond bellach mae’'n awdur llawn amser. Enillodd ei nofel gyntaf, Dygwyl Eneidiau, Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 2006. Cyhoeddwyd ei dwy nofel ddiwethaf, Pieta a Barato, gan Wasg y Bwthyn.


Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017