Y Cymundeb Anglicanaidd

Grŵp o eglwysi Anglicanaidd cenedlaethol, annibynnol sydd yn cadw cysylltiadau â'r fameglwys, Eglwys Loegr, yw'r Cymundeb Anglicanaidd.

Y Cymundeb Anglicanaidd
Enghraifft o'r canlynolenwad Cristnogol Edit this on Wikidata
Rhan oAnglicaniaeth, Cristnogaeth Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1867 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysAnglican Church in Aotearoa, New Zealand and Polynesia, Anglican Church of Australia, Church of Bangladesh, Anglican Episcopal Church of Brazil, Church of the Province of Central Africa, Anglican Church in Central America, Province of the Anglican Church of the Congo, Eglwys Loegr, Hong Kong Sheng Kung Hui, Church of the Province of the Indian Ocean, Church of Ireland, Anglican Church in Japan, Anglican Church of Kenya, Anglican Church of Korea, Anglican Church of Melanesia, Anglican Church of Mexico, Church of the Province of Myanmar, Church of Nigeria, Church of North India, Church of Pakistan, Province of the Anglican Church of Burundi, Anglican Church of Papua New Guinea, Episcopal Church in the Philippines, Province of the Anglican Church of Rwanda, Eglwys Esgobol yr Alban, Anglican Church of South America, Church of the Province of South East Asia, Anglican Church of South India, Province of the Episcopal Church of South Sudan, Anglican Church of Southern Africa, Province of the Episcopal Church of Sudan, Anglican Church of Tanzania, Church of Uganda, Yr Eglwys Esgobol, yr Eglwys yng Nghymru, Church of the Province of West Africa, Church in the Province of the West Indies, Eglwys Esgobol Jeriwsalem yn y Dwyrain Canol, Extra-provincial Anglican churches, Philippine Independent Church Edit this on Wikidata
PencadlysLlundain Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.anglicancommunion.org/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Baner y Cymundeb Anglicanaidd

Sefydlwyd yr eglwysi Anglicanaidd cyntaf y tu allan i Brydain ac Iwerddon yn yr 17g yn sgil gwladychiaeth Seisnig yn yr Amerig. Ffurfiwyd y Gymdeithas er Hyrwyddo Gwybodaeth Gristionogol yn 1698 i ddanfon llyfrau gweddi i'r Anglicaniaid a ymsefydlasant yn y Byd Newydd. Sefydlwyd y Gymdeithas er Taenu'r Efengyl yn 1701 i ddarparu gweinidogion ar gyfer y gwladychwyr. Cafodd esgob cyntaf yr Eglwys Americanaidd (bellach yr Eglwys Esgobol Brotestannaidd) ei gysegru yn 1784, ac esgob cyntaf Canada yn 1787.

Wrth i diriogaeth yr Ymerodraeth Brydeinig ymledu ar draws y byd, bu galw am ragor o eglwysi Anglicanaidd tramor. Sefydlwyd Cymdeithas Genhadol yr Eglwys yn 1799 i daenu'r efengyl i frodorion Affrica ac Asia. Danfonwyd esgob i Calcutta yn yr India yn 1814 i oruchwylio caplaniaid Cwmni Prydeinig India'r Dwyrain. Yn ddiweddarach aeth esgobion o Loegr i Affrica, Awstralia a'r Dwyrain Pell, ac erbyn diwedd y 19g cawsant Indiaid, Affricanwyr, a Tsieineaid brodorol eu cysegru'n esgobion Anglicanaidd.

Datblygai'r eglwysi tramor yn gyrff annibynnol a chanddynt nodweddion unigryw a thraddodiadau eu hunain, er eu bod i gyd yn dal i edrych ar Eglwys Loegr yn yr Hen Fam. Er enghraifft, mae gan bob eglwys yn y Cymundeb Anglicanaidd ei llyfr gweddi ei hun, ond maent i gyd yn seiliedig ar y Llyfr Gweddi Gyffredin. Archesgob Caergaint ydy arweinydd primus inter pares y Cymundeb Anglicanaidd, ac yn ei breswylfa Palas Lambeth cynhelir cyfarfodydd rhyngwladol o esgobion yr holl eglwysi. Dywed taw 1867, blwyddyn Cynhadledd gyntaf Lambeth, yw dyddiad sefydlu'r Cymundeb Anglicanaidd.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Anglican Communion. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 7 Hydref 2018.