Eglwys Esgobol yr Alban

Eglwys annibynnol yn yr Alban o fewn y Cymundeb Anglicanaidd yw Eglwys Esgobol yr Alban (Saesneg: Scottish Episcopal Church, Sgoteg: Scots Episcopal Kirk, Gaeleg yr Alban: Eaglais Easbaigeach na h-Alba).

Eglwys Esgobol yr Alban
Arfbais Eglwys Esgobol yr Alban: meitr o flaen dwy fagl esgob wedi'u croesi, ar darian goch.
Enghraifft o'r canlynolenwad Cristnogol, Eglwys Esgobol Edit this on Wikidata
Rhan oAnglicaniaeth Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1712 Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolCyngor Eglwysi'r Byd Edit this on Wikidata
PencadlysCaeredin Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://scotland.anglican.org/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Datblygodd seiliau'r eglwys yn sgil y Diwygiad Protestannaidd yn yr 16g. Am ryw ganmlynedd, byddai'r Presbyteriaid—a ddadleuai dros lywodraeth eglwysig drwy gynulliad o henaduriaid—yn cystadlu â'r blaid Esgobol—y rhai a arddelai esgobyddiaeth—dros y drefn Brotestannaidd yn yr Alban. Yn sgil yr Adferiad ym 1660, unodd y ddwy blaid ar ffurf esgobaeth wedi'i haddasu, a thyngasant lw teyrngarwch i'r brenhinoedd Siarl I ac Iago VII. Fodd bynnag, diorseddwyd Iago gan y Chwyldro Gogoneddus ym 1688, gan beri trafferth foesol i'r Esgobwyr a addawsant eu ffyddlondeb iddo. Ar ôl esgyniad Wiliam II a Mari II i'r orsedd, chwalodd y ddwy garfan eto ym 1689, ac ym 1690 sefydlwyd yr Eglwys Bresbyteraidd yn ffydd genedlaethol yr Alban. O'r rhwyg hon, tarddai'r Eglwys Esgobol yn yr Alban—a elwir yn ddiweddarach Eglwys Esgobol yr Alban—yn uniongyrchol o'r eglwysi a fu'n ffyddlon i'r traddodiad esgobol, ac mae ei hesgobion yn olynwyr i'r rhai a gysegrwyd i esgobaethau'r Alban yn y cyfnod wedi'r Adferiad.[1]

Gorfodwyd deddfau penyd yn erbyn yr Eglwys Esgobol yn yr Alban oherwydd y cysylltiad rhwng y rhai a gadwodd yn ffyddlon i'r Brenin Iago, a gwrthryfeloedd y Jacobitiaid ym 1715 a 1745. Diddymwyd y deddfau hynny ym 1792, a chafwyd adfywiad yn yr Eglwys Esgobol.

Ym 1764 lluniwyd Gwasanaeth Albanaidd y Cymun, ar sail y ffurfwasanaeth o'r addasiad o'r Llyfr Gweddi Cyffredin Saesneg a orfodwyd ar yr Alban gan Siarl I ym 1637. Cychwynnwyd ar adolygiad o'r holl lyfr weddi yn y 1920au, a chyflwynwyd y Llyfr Gweddi Albanaidd ym 1929.

Map o esgobaethau Eglwys Esgobol yr Alban.

Rhennir yr eglwys yn saith esgobaeth: Glasgow a Galloway; Caeredin; St Andrews, Dunkeld a Dunblane; Brechin; Aberdeen ac Ynysoedd Erch; Moray, Ross a Chothnais; ac Argyll a'r Ynysoedd. Mae'r saith esgob yn ethol un o'u plith hwy yn brif esgob (primus). Cymerir lleygwyr yr eglwys ran weithgar yn y Cyngor Eglwysig Cynrychiadol, sydd yn ymwneud â chyllid yr eglwys, a'r Synod Cyffredinol—dan lywyddiaeth y prif esgob—sydd yn ystyried materion litwrgïaidd a chanonaidd.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Episcopal Church in Scotland. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Hydref 2022.