18fed ganrif yng Nghymru

Roedd y 18g yng Nghymru yn gyfnod o barhad o rai agweddau ar fywyd crefyddol a chymdeithasol y ganfrif flaenorol ac, ar yr un pryd, yn gyfnod o newidiadau mawr yn y wlad, yn arbennig yn ail hanner y ganrif a osododd Cymru ar lwybr newydd gyda diwydiant yn tyfu'n gyflym a phoblogaeth y trefi'n dechrau cynyddu.

Hanes Cymru
Arfbais Llywelyn Fawr
Mae'r erthygl hon yn rhan o gyfres
Cyfnodau
Cynhanes
Cyfnod y Rhufeiniaid
Oes y Seintiau
Yr Oesoedd Canol
Yr Oesoedd Canol Cynnar
Oes y Tywysogion
Yr Oesoedd Canol Diweddar
Cyfnod y Tuduriaid
17eg ganrif
18fed ganrif
19eg ganrif
20fed ganrif
Y Rhyfel Byd Cyntaf
Y cyfnod rhwng y rhyfeloedd
Yr Ail Ryfel Byd
21ain ganrif
Teyrnasoedd
Deheubarth
Gwynedd
Morgannwg
Powys
Yn ôl pwnc
Hanes crefyddol
Hanes cyfansoddiadol
Hanes cyfreithiol
Hanes cymdeithasol
Hanes demograffig
Hanes economaidd
Hanes gwleidyddol
Hanes LHDT
Hanes milwrol
Hanes morwrol
Hanes tiriogaethol
Hanesyddiaeth

WiciBrosiect Cymru


Crefydd ac addysg golygu

Dyma'r ganrif pan oedd y Diwygiad Methodistaidd mewn bri gyda pobl fel Howel Harris, William Williams Pantycelyn a Daniel Rowland yn arwain trwy deithio'r wlad i bregethu o flaen tyrfaoedd mawr. Cafwyd hefyd ysgolion cylchynol Griffith Jones yn y ganrif hon a dyma gyfnod gwaith Y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol (SPCK), yn ogystal. Erbyn diwedd y ganrif yr oedd canran sylweddol o'r boblogaeth yn Anghydffurfwyr o ryw fath, ond arosai nifer yn ffyddlon i'r Eglwys yn ogystal.

Iaith a diwylliant golygu

 
"Yr Wyddfa o Lyn Nantlle", dyfrlliw gan Richard Wilson

Roedd y mwyafrif mawr o'r boblogaeth yn Gymry uniaith Gymraeg o hyd a'r rhan fwyaf yn byw mewn pentrefi a threfi bach cefn gwlad. Roedd caneuon gwerin a barddoniaeth rydd yn boblogaidd, yn arbennig adeg y gwyliau mawr fel y Gwyliau Mabsant. Yn ail hanner y ganrif roedd yr anterliwt ar ei hanterth a phobl yn tyrru i'r llwyfan yn y ffeiriau, yn arbennig yn siroedd y gogledd-ddwyrain.

Cafwyd tyfiant mawr yn y nifer o lyfrau a gyhoeddwyd ynghyd â gwawr newyddiaduriaeth yng Nghymru gydag ymddangosiad y cylchgronau cyntaf. Gosodwyd sylfeini'r Eisteddfod Genedlaethol gyda gwaith y Gwyneddigion yn Llundain ac yn y cylchoedd llenyddol cafwyd math o Ddadeni gyda bri ar bopeth Celtaidd ac ail-ddarganfod meistri'r gorffennol fel Dafydd ap Gwilym a'r Gogynfeirdd diolch i waith Goronwy Owen, Ieuan Fardd a Morrisiaid Môn. Dechreuodd teithwyr ymweld â'r wlad a gwerthfawrogi ei thirwedd "gwyllt" - y twristiaid cyntaf - ac ymledodd dylanwad y Mudiad Rhamantaidd ar lenorion ac artistiad y wlad, fel yr arlunydd enwog Richard Wilson.

Rhai uchafbwyntiau golygu

Darllen pellach golygu

  • E. D. Evans, A History of Wales, 1660-1815 (Caerdydd, 1976)
  • J. J. Evans, Cymry Enwog y Ddeunawfed Ganrif (Aberystwyth, 1937). Bywgraffiadau o rai o'r ffigyrau pwysicaf.
  • G. H. Jenkins, Literature, religion and society in Wales, 1660-1730 (Caerdydd, 1978)
  • R. T. Jenkins, Hanes Cymru yn y Ddeunawfed Ganrif (Caerdydd, 1928). Y gyfrol glasurol ar y cyfnod.
  • D. Moore (gol.), Wales in the Eighteenth Century (1976)
  • Prys Morgan, The Eighteenth Century Renaissance (Abertawe, 1981). Yn y gyfres 'A New History of Wales'.
  • D. Williams, A History of Modern Wales (Caerdydd, 1975)

Gweler hefyd golygu