Y Deyrnas Newydd

cyfnod o 1550 i 1077 CC yn yr hen Aifft

Y Deyrnas Newydd yw'r enw a roddir i'r cyfnod rhwng tua 1570 CC a 1070 CC yn hanes yr Hen Aifft.

Ramesses II: un o'r pedwar cerflun enfawr tu allan i Abu Simbel.

Syniad a ddatblygwyd gan eifftolegwyr yn y 19g oedd rhannu hanes yr Hen Aifft yn nifer o deyrnasoedd; nid oedd yr hen Eifftwyr ei hunain yn meddwl am eu hanes fel hyn. Ystyrir bod y Deyrnas Newydd yn cynnwys brenhinoedd y 18fed Brenhinllin hyd yr 20fed Brenhinllin.

Cyrhaeddodd grym yr Hen Aifft ei uchafbwynt yn ystod yr Hen Deyrnas, yn enwedig yn ystod teyrnasiad Thutmose III, a arweiniodd ymgyrchoedd milwrol tu hwnr i afon Ewffrates. Gwelodd y cyfnod yma hefyd chwyldro crefyddol Akhenaten, a theyrnasiad byr Tutankhamun, a ddaeth yn enwog pan gafwyd hyd i'w fedd yn nechrau'r 20g. Un arall o frenhinoedd adnabyddus y Deyrnas Newudd oedd Ramesses II (1279-1213 CC).

Daeth y Deyrnas Newydd i ben pan gollodd brenin olaf yr 20fed Brenhinllin, Ramesses XI, ei afael ar yr orsedd. Daeth Archoffeiriaid Amun yn Thebes y rheolwyr rhan ogleddol yr Aifft, tra daeth Smendes yn rheolwr y de, gan sefydlu'r 21ain Brenhinllin yn Tanis.

18fed Brenhinllin 1550 CC - 1295 CC

golygu
Enw Nodiadau Dyddiadau (CC)
Ahmose I, Ahmosis I Olynydd Kamose 1550-1525
Amenhotep I - 1525-1504
Thutmose I - 1504-1492
Thutmose II - 1492-1479
Thutmose III Gelwir weithiau yn "Napoleon yr Aifft". Yn gynnar yn ei deyrnasiad cipiwyd grym gan ei fam-wen Hatshepsut; ond wedi ei marwolaeth hi ymestynnodd ymerodraeth yr Aifft i’w maint eithaf. 1479-1425
Hatshepsut Yr ail ferch I deyrnasu yn ôl pob tebyg. 1473-1458
Amenhotep II - 1425-1400
Thutmose IV - 1400-1388
Amenhotep III - 1388-1352
Amenhotep IV/Akhenaten Newidiodd ei enw i Akhenaten pan gyflwynodd grefydd newydd, Ateniaeth. 1352-1334
Smenkhkare Efallai’n gyd-frenin gyda Akhenaten 1334-1333
Tutankhamun Dychwelwyd i’r hen grefydd dan ei deyrnasiad ef. 1333-1324
Kheperkheprure Ay - 1324-1320
Horemheb Gynt yn gadfridog a chynghorydd i Tutankhamun 1320-1292

19eg Brenhinllin 1295 CC. - 1186 CC.

golygu
Enw Nodiadau Dyddiadau (CC)
Ramesses I - 1292-1290
Seti I - 1290-1279
Ramesses II Gelwir weithiau yn “Ramesses Fawr”. 1279-1213
Merneptah Mae Stele yn disgrifio ei ymgyrchoedd yn cynnwys y cyfeiriad cynharaf at Israel. 1213-1203
Amenemses - 1203-1200
Seti II - 1200-1194
Merneptah Siptah - 1194-1188
Tausret Merch. 1188-1186

20fed Brenhinllin 1185 CC. - 1070 CC

golygu
Enw Nodiadau Dyddiadau (CC)
Setnakhte - 1186-1183
Ramesses III Ymladdodd yn erbyn Pobloedd y Mor yn 1175 CC. 1183-1152
Ramesses IV - 1152-1146
Ramesses V - 1146-1142
Ramesses VI - 1142-1134
Ramesses VII - 1134-1126
Ramesses VIII - 1126-1124
Ramesses IX - 1124-1106
Ramesses X - 1106-1102
Ramesses XI - diorseddwyd gan Herihor, Archoffeiriad Amun 1102-1069

Gweler hefyd

golygu