Descriptio Kambriae

(Ailgyfeiriad o Y Disgrifiad o Gymru)

Llyfr topograffyddol am Gymru ar ddiwedd y 12g gan yr awdur ac eglwyswr Gerallt Gymro yw'r Descriptio Kambriae neu'r Disgrifiad o Gymru. Fe'i ysgrifennwyd gan y llenor Cambro-Normanaidd tua'r flwyddyn 1194 gydag ychwanegiadau a diwygiadau eraill hyd tua 1215.

Descriptio Kambriae
Enghraifft o'r canlynoltraethawd Edit this on Wikidata
AwdurGerallt Gymro Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1194 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata

Gyda'r Hanes y Daith Trwy Gymru (1189), mae'n un o ddau lyfr enwog am Gymru o waith Gerallt ac yn ffynhonnell bwysig iawn am ein gwybodaeth o Gymru a'r Cymry yng nghyfnod yr awdur. Er mai darlun o Gymru trwy lygaid Cambro-Normaniad a geir a'i fod felly ymhell o fod yn ddiduedd, dyma'r unig lyfr o'i fath am Gymru cyn y Cyfnod Modern.

Cynnwys golygu

Rhennir y llyfr yn ddwy adran fawr. Yn y gyntaf ceir nodweddion hyglod y wlad a'i phobl, ym marn yr awdur. Ceir disgrifiad o ddaearyddiaeth Cymru, tras y Cymry a'u tywysogion, teyrnasoedd Cymru, y cantrefi a'r esgobaethau, arferion cymdeithasol y Cymry fel eu lletygarwch a'u gwisg, eu doniau a'u llenyddiaeth, a'u cariad at y Ffydd.

Yn yr ail adran ceir eu nodweddion llai dymunol ynghyd â chyngor ymarferol i'r Normaniaid am sut i oresgyn y wlad. Gwelir amwysedd yr awdur fel gŵr o dras gymysg yma - roedd ei fam, Nest, yn Gymraes - a phwysleisia sawl gwaith nad tasg hawdd fyddai oresgyn y Cymry balch a dewr.

Cyfieithiad golygu