Samuel Roberts (SR)
Gweinidog gyda'r Annibynwyr, diwygiwr radicalaidd ac awdur o Gymru oedd Samuel Roberts (S. R.) (6 Mawrth 1800 – 24 Medi 1885). Roedd yn frodor o blwyf Llanbrynmair, yn yr hen Sir Drefaldwyn (Powys).
Samuel Roberts | |
---|---|
Samuel Roberts ca. 1875 | |
Ffugenw | S.R. |
Ganwyd | 6 Mawrth 1800 Powys |
Bu farw | 24 Medi 1885 Cymru |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, llenor, bardd, ffermwr |
Cyflogwr | |
Tad | John Roberts |
Mam | Mary Breese |
Bywgraffiad
golyguRoedd ei dad, John Roberts, yn cadw ysgol yn Llanbrynmair, lle cafodd S. R. ei addysg gynnar cyn mynd i Ysgol Ramadeg Amwythig ac yna Academi George Lewis yn Llanfyllin.
Daeth yn ffigwr adnabyddus ledled Cymru, wrth yr enw "S. R." neu "Samuel Roberts, Llanbryn-mair", fel golygydd Y Cronicl, a sefydlwyd ganddo yn 1843. Roedd yn ddiflewyn ei dafod ei farn ar bynciau mawr y dydd. Gwrthwynebai adroddiad y Llyfrau Gleision, caethwasaeth, Rhyfel Crimea a phob agwedd ar imperialaeth Lloegr, boed hynny mewn perthynas â Chymru neu unrhyw wlad arall. Roedd o flaen ei amser hefyd yn ei gefnogaeth ddiysig i hawl pleidlais i bawb, yn cynnwys pleidlais i ferched.
Ond enynodd ei farn annibynnol radicalaidd elynion iddo. Roedd yn ffermwr denant ar stad Wynnstay a bu rhaid iddo adael ei fferm yn 1857 ac ymfudo, fel sawl Cymro arall, i'r Unol Daleithiau i geisio ennill ei fywoliaeth a chael rhyddid barn. Ymgartrefodd yn nhalaith Tennessee. Pregethai'n gryf yn erbyn Rhyfel Cartref America yn enw egwyddorion heddychaeth, ond cafodd ei gamddeall a'i gondemnio o'r herwydd. Dychwelodd i Gymru, wedi ei siomi gan yr Amerig, yn 1867, ac aeth i ymgartrefu gyda'i frodyr yn nhref Conwy, Bu farw yno yn 1885.
Gwaith llenyddol
golyguRoedd S. R. yn awdur toreithiog. Yn ogystal â llu o erthyglau yn Y Cronicl a chylchgronau Cymraeg eraill, cyhoeddodd dwy gyfrol o gerddi, pregethau, traethodau, hunangofiant, ac ysgrifau. Ei gyfrol enwocaf yw Cilhaul.
Llyfryddiaeth
golyguGwaith S. R.
golygu- Caniadau (1830)
- Cofiant John Roberts (1837)
- Diosg Farm (1854)
- Gweithiau (1856)
- Pregethau a Darlithiau (Utica, Efrog Newydd, 1865)
- Detholion (1867)
- Crynodeb o helyntion ei fywyd (1875)
- Farmer Careful (1881)
- Pleadings for Reform (1881)
- Hunanamddiffyniad S. R. (1882)
- Caniadau Byrion a Cilhaul (1906)
- Heddwch a Rhyfel (d.d.).
Ceir detholiad o'i waith, yn cynnwys Cilhaul, yn y gyfrol Cilhaul ac ysgrifau eraill, golygwyd gan Iorwerth C. Peate (Caerdydd, 1951)
Llyfrau amdano
golygu- Evan Pan Jones, Cofiant y Tri Brawd o Lan-brynmair (1892)
- Glanmor Williams, Samuel Roberts, Llanbrynmair (Caerdydd, 1950)
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |