Y glêr

math o fardd yng nghyfnod Beirdd yr Uchelwyr
(Ailgyfeiriad o Y Glêr)

Enw ar feirdd israddol yng nghyfnod Beirdd yr Uchelwyr yw y glêr, ond gall hefyd gyfeirio at feirdd yn gyffredinol. Roedd y glêr yn aml yn feirdd crwydrol, tebyg i finstreliaid, ac roeddynt yn feirdd gwerinol a ddirmygid yn aml gan y beirdd uwch eu statws.

Canai'r glêr ar fesurai gwahanol i'r penceirddiaid. Tra canai pencerdd awdl fawl neu farwnad fawreddog, canai aelod o'r glêr ar fesurau symlach fel y traethodl. Fodd bynnag, ni ddylid bychanu dylanwad y beirdd hyn, gan fod ysgolheigion yn credu mai o'r traethodl y datblygodd y cywydd deuair hirion, sef prif fesur Beirdd yr Uchelwyr; mesur sydd wedi dal ei dir hyd y dydd hwn. Gellir dweud felly bod mesur israddol y beirdd hyn yn sail i gyfnod a ddisgrifiwyd gan Thomas Parry fel y cyfnod... gwychaf oll yn hanes llenyddiaeth Cymru.[1]

Defnyddiwyd y gair gan Iolo Goch a Dafydd ap Gwilym i gyfeirio at feirdd yn gyffredinol, yn hytrach na beirdd israddol. Noda Einion Offeiriad yn ei ramadeg fod tri math o fardd, sef clerwr, teuluwr a phrydydd.

Ceir cyfeiriadau mynych at y glêr yng ngwaith Beirdd yr Uchelwyr, fel yr enghraifft hon gan Uto'r Glyn:

Os y gler a gasgl arian,
Ni chasglent na'm rhent na'm rhan.

a'r llinell hon gan Dudur Aled:

Nid amlach gwenyn i'r glyn no'r Glêr.

Yn ogystal, ceir y llinell finiog hon yng ngwaith Gruffudd Llwyd:

Nid un o'r glêr ofer wyf,

gan ddangos yn eglur y rhwyg rhwng y glêr a'r beirdd proffesiynol.

Yn Eisteddfod gyntaf Caerwys ym 1523, lluniwyd statud a dadogir ar Ruffudd ap Cynan i geisio cael gwared â'r chwyn yn y sefydliad barddol. Canai'r glêr y tu allan i'r statud hon, a chanent yn ddigynghanedd fel arfer. Byddai'r glêr yn cymryd rhan mewn teithiau clera, a byddai nifer o'r beirdd uwch eu statws yn mynd ar y teithiau hyn, gan ganu i wahanol noddwyr. Y tair prif ŵyl oedd y Nadolig, y Pasg a'r Sulgwyn. Byddent hefyd yn clera'n achlysurol ar gyfer priodasau neu neithiorau.[2] Cyfeiria Guto'r Glyn at ei deithiau clera yn ei gerddi, gan ddangos bod clera yn orchwyl i'r beirdd mawrion a'r beirdd isradd fel ei gilydd.

Yr enw yn yr oes fodern

golygu

Mae Y Glêr yn enw ar dîm ifanc sy'n cymryd rhan yn yr ymryson barddol Talwrn y Beirdd ar Radio Cymru. Clera yw enw Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru, ac enw'r gerddorfa draddodiadol Gymreig sy'n rhan o'r gymdeithas yw Y Glerorfa.

Dechreuodd y beirdd Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury podlediad barddonol misol Clera yn 2016.[3]

Llyfryddiaeth

golygu

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Thomas Parry, Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900, Gwasg Prifysgol Cymru, 1945
  2. Gwyn Thomas, Y Traddodiad Barddol, Gwasg Prifysgol Cymru, 1976.
  3. http://www.eurig.cymru/blog/podlediad-clera-1