Y Gwarchodlu Gwyddelig
Catrawd o droedfilwyr yn y Fyddin Brydeinig yw'r Gwarchodlu Gwyddelig (Saesneg: Irish Guards; IG) sy'n rhan o Adran y Gwarchodluoedd. Mae ganddi un fataliwn. Mae'r fyddin yn recriwtio Gwarchodluwyr Gwyddelig o Ogledd Iwerddon a'r gymuned Wyddelig ym Mhrydain Fawr. Ni cheir hawl i recriwtio yng Ngweriniaeth Iwerddon, ond mae rhai dinasyddion Gwyddelig yn listio â'r gatrawd ar liwt eu hunain.
Enghraifft o'r canlynol | catrawd, gwarchodlu troedfilwyr |
---|---|
Rhan o | Adran y Gwarchodluoedd |
Dechrau/Sefydlu | 1 Ebrill 1900 |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Sefydlwyd y gatrawd gan y Frenhines Fictoria ar 1 Ebrill 1900 i ddangos ei gwerthfawrogiad i filwyr Gwyddelig a ymladdodd yn Ail Ryfel y Boer.[1] Yr Arglwydd Roberts oedd cyrnol cyntaf y gatrawd, ac oddi arno ef daeth yr hen lysenw "Bob's Own".[2] Llysenw modern y Gwarchodlu Gwyddelig yw'r "Micks".[1][3]
Gwisg
golyguMae'r wisg gyflawn yn dilyn patrwm y Gwarchodluoedd Troedfilwyr, sef ysgarlad gyda ffesin glas. Trefnir y botymau mewn grwpiau o bedwar, ac maent wedi eu stampio gyda symbol o delyn a choron. Gwisgir pluen las Sant Padrig ar ochr dde'r cap croen arth, a bathodyn coler gwyn mewn siâp meillionen ar y tiwnig ysgarlad.[1][2] Mae pibyddion yn gwisgo caubeen gwyrdd gyda phluen fer las, dwbled werdd, cilt o liw saffrwn, a sannau gwyrdd.[2]
Mae cap y Gwarchodluwyr Gwyddelig yn las gyda band a gwaltas werdd.[2] Seren Urdd Sant Padrig, sy'n dangos meillionen yn ei chanol, yw'r bathodyn cap. Yn debyg i gatrodau troedfilwyr eraill yn Adran yr Osgordd, mae defnydd o'r bathodyn yn amrywio yn ôl rheng y milwr.[4]
Traddodiadau
golyguRhoddir meillionen i bob aelod o'r gatrawd ar Ŵyl Sant Padrig, sef 17 Mawrth. Gorchmynodd y Frenhines Fictoria y seremoni hon, a ddechreuwyd gan y Frenhines Alexandra ym 1901. Cyflwynodd Elisabeth y Fam Frenhines y feillionen pob blwyddyn o 1968 hyd ei marwolaeth. Mae'r Gwarchodlu Gwyddelig wedi paredio bleiddgi Gwyddelig, masgot y gatrawd, ers 1902. Enwir y bleiddgwn ar ôl penaduriaid hanesyddol Iwerddon.[5]
Anrhydeddau brwydrau
golygu- Y Rhyfel Byd Cyntaf: Mons, Enciliad Mons, Marne 1914, Aisne 1914, Ypres 1914 a 1917, Langemarck 1914, Brwydr Gheluvelt, Nonne Bosschen, Festubert 1915, Loos, Somme 1916 a 1918, Flers-Courcelette, Morval, Pilckem, Poelcapelle, Passchendaele, Cambrai 1917 a 1918, St. Quentin, Lys, Hazebrouck, Albert 1918, Bapaume 1918, Arras 1918, Scarpe 1918, Drocourt-Quéant, Llinell Hindenburg, Canal du Nord, Selle, Sambre, Ffrainc a Fflandrys 1914–18
- Yr Ail Ryfel Byd:
- Gogledd-orllewin Ewrop: Pothus, Norwy 1940, Boulogne 1940, Cagny, Mont Pincon, Neerpelt, Nijmegen, Aam, Y Rheindir, Hochwald, Y Rhein, Bentheim, Gogledd-orllewin Ewrop 1940 a 1944–45
- Gogledd Affrica: Gwastadedd Medjez, Djebel bou Aoukaz, Gogledd Affrica 1943
- Yr Eidal: Anzio, Aprilia, Carroceto, Yr Eidal 1943–44
- Al Basrah 2003, Iraq 2003
Catrodau cynghreiriol
golygu- 2il/4ydd Fataliwn, Catrawd Frenhinol Awstralia[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Chant, Christopher. The Handbook of British Regiments (Llundain, Routledge, 1988), t. 81.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 Griffin, P. D. Encyclopedia of Modern British Army Regiments (Thrupp, Sutton, 2006), t. 66.
- ↑ McMahon, Sean ac O'Donoghue, Jo. Brewer's Dictionary of Irish Phrase and Fable (Llundain, Weidenfeld & Nicolson, 2004), t. 541.
- ↑ Ward, Arthur. British Army Cap Badges of the Twentieth Century (Ramsbury, The Crowood Press, 2007), t. 68.
- ↑ Griffin, t. 68.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan swyddogol