Y Senotaff, Llundain

cofeb ryfel yn Llundain

Cofeb ryfel yn Whitehall, Llundain, yw'r Senotaff (Saesneg: Cenotaph, o'r gair yn iaith Roeg am fedd gwag).[1] Mae'n coffáu'r milwyr Prydeinig a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf a'r rhyfeloedd ers hynny. Dyma ganolbwynt y seremoni coffáu gwladol a gynhelir yn flynyddol ar Sul y Cofio. Fe'i cynlluniwyd gan y pensaer Syr Edwin Lutyens mewn pythefnos yng Ngorffennaf 1919, ar gyfer pen-blwydd y Cadoediad. Pren a phlastr oedd deunyddiau'r cofeb dros dro hon; adeiladwyd fersiwn carreg parhaol yn y flwyddyn olynol.[2] Mae'r cynllun wedi bod yn ddylanwadol iawn ar gofadeiladau ledled y byd; ceir fersiynau ohono yn Awstralia, Bermuda, Canada, Hong Kong a Seland Newydd. Mae fersiwn bychan ohono a godwyd ym 1924, eto i gynlluniau Lutyens, ym Marics Maendy, Caerdydd.[3]

y Senotaff
Mathcofeb ryfel Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDinas Westminster, Llundain
Sefydlwyd
  • 1919 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlundain Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.50269°N 0.12608°W Edit this on Wikidata
Cod OSTQ3015979858 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Manylion
DeunyddCarreg Portland Edit this on Wikidata

Oriel golygu

 
Fersiwn bychan ym Marics y Maendy, Caerdydd
Fersiwn bychan ym Marics y Maendy, Caerdydd 
 
Senotaff Hong Kong
Senotaff Hong Kong 

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) The Cenotaph. National Heritage List for England. English Heritage. Adalwyd ar 7 Tachwedd 2014.
  2. (Saesneg) The Cenotaph. Veterans UK. Adalwyd ar 7 Tachwedd 2014.
  3. Newman, John (1995). Glamorgan. The Buildings of Wales. Llundain: Penguin. t. 287.CS1 maint: ref=harv (link)

Gweler hefyd golygu