Y Gwynfryn yn Llundain

Safle mytholegol yw Y Gwynfryn yn Llundain y cyfeirir ato yn chwedl Branwen ferch Llŷr, yr ail o Bedair Cainc y Mabinogi, lle cleddir pen Bendigeidfran.

Cawr yw Bendigeidfran yn y chwedl, sy'n frenin ar y Brythoniaid gyda'i brif lys yn Harlech. Ar ôl arwain cyrch i Iwerddon i achub ei chwaer Branwen fe'i lleddir gan glwyf wenwynig. Ond cyn marw mae'n gorchymyn i'w wŷr dorri ei ben a mynd a'r pen yn ôl gyda hwy a'i osod yn "y Gwynfryn yn Llundain".

Dygir ei ben yn ôl i Gymru gan y saith arwr a ddihangasant o Iwerddon. Maent yn aros ar ynys Gwales ac yn treulio 80 mlynedd arni yng nghwmni pen Bendigeidfran yn cael eu diddanu gan ganu Adar Rhiannon:

'Ac yng Ngwales ym Mhenfro y byddwch bedwarugaint mlynedd. Ac yny agoroch y drws parth ag Aber Henfelen, y tu at Gernyw, y gellwch fod yno a'r pen yn ddilwgr gennwch.'[1]

Wedi i'r 80 mlynedd fynd heibio mae Heilyn fab Gwyn yn agor y drws ac mae hud y pen yn cymhellu'r arwyr i fynd ar eu hunion i Lundain lle cleddir y pen "yn y Gwynfryn". Cyfeiria'r chwedl at driawd sy'n ei ddisgrifio fel y "trydydd fadgudd pan guddwyd" (y trydydd cuddiad ffodus...) a'r "trydydd anfad ddatgudd pan ddatguddwyd" (y trydydd cuddiad anffodus...). Yn ôl y chwedl, ni allai niwed gyrraedd yr ynys trwy'r môr (o gyfeiriad Ffrainc) tra byddai'r pen yn y cuddfa hwnnw.[2] Ceir y triawd hwn, sef 'Tri Chudd a Thri Datgudd Ynys Prydain' yn y casgliadau o'r trioedd Cymraeg a adnabyddir fel 'Trioedd Ynys Prydain'.[3]

Unieithir "y Gwynfryn" yn aml â safle Tŵr Llundain, a godwyd gan Wilym Gwncwerwr. Ond mae Ifor Williams yn methu gweld rheswm dros dderbyn hynny ac yn cynnig "y bryn lle saif St. Paul's".[4] Os cywir y ddamcaniaeth fod y Pedair Cainc fel gwaith llenyddol yn dyddio o ganol yr 11g mae'n debyg na allai "y Gwynfryn" gyfeirio at safle Tŵr Llundain, lle codwyd yr tŵr cynharaf, a elwir Y Tŵr Gwyn, gan Wilym Goncwerwr yn 1078.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930; arg. newydd, 1989). Tud. 45. Diweddarwyd yr orgraff.
  2. Pedeir Keinc y Mabinogi, tud. 47.
  3. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Gwasg Prifysgol Cymru, 1991), triawd 37.
  4. Pedeir Keinc y Mabinogi, tud. 214.