Y Gymdeithas Lenyddol Frenhinol

Cymdeithas ddysgedig i lenorion ac elusen er hyrwyddo llenyddiaeth yn y Deyrnas Unedig yw'r Gymdeithas Lenyddol Frenhinol (Saesneg: Royal Society of Literature, RSL). Lleolir ei phencadlys yn Somerset House, Dinas Westminster, yn Llundain.

y Gymdeithas Lenyddol Frenhinol
Mathcymdeithas ddysgedig, academi cenedlaethol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1820 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlundain Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Sefydlwydwyd ganSiôr IV, brenin y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Sefydlwyd y Gymdeithas Lenyddol Frenhinol ym 1820 gan y Brenin Siôr IV, ar gynnig Thomas Burgess, Esgob Tyddewi, i "wobrwyo haeddiant llenyddol ac ennyn dawn lenyddol".[1] Rhoddwyd swm o 1,100 gini yn nawdd cychwynnol gan y brenin i'r gymdeithas newydd: y rhan fwyaf i'w rhoi yn bensiwn o gant gini'r un i ddeng Aelod Brenhinol, a'r cant yn weddill yn wobr am draethawd. Ymhlith y ddeng aelod cyntaf oedd yr economegydd Thomas Malthus a'r bardd Samuel Taylor Coleridge. Cyhoeddwyd erthyglau a thrafodion yr RSL (Transactions) yn rheolaidd hyd at ohirio'r rheiny yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ailgychwynnwyd y gyfres ym 1921, dan yr enw Essays by Divers Hands.[2]

Mae gan yr RSL ryw 600 o Gymrodorion etholedig. Yn ogystal, dewisir Cymrodorion Anrhydeddus o ddiwydiant cyhoeddi a chylchoedd llenyddol y Deyrnas Unedig, gan gynnwys cyhoeddwyr, asiantau, llyfrgellwyr, a gwerthwyr llyfrau. Ers 1961, rhoddir y teitl Cydymaith i lenorion amlwg yn yr iaith Saesneg. Y deg Cydymaith cyfredol yw Syr Michael Holroyd, Syr Tom Stoppard, Michael Frayn, Margaret Atwood, Alice Munro, Anita Desai, Kazuo Ishiguro, Edna O'Brien, Philip Pullman, a Colin Thubron.[3] Mae aelodaeth gyffredin yr RSL yn agored i bawb, am dâl blynyddol. Mae'r RSL yn noddi darlleniadau a darlithoedd, yn cynnig gwobrwyon (gan gynnwys Medal Benson a Gwobr Stori Fer V. S. Pritchett), ac yn ymgyrchu ar faterion o ddiddordeb i lenorion.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) "History", Y Gymdeithas Lenyddol Frenhinol. Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 23 Mawrth 2023.
  2. Dinah Birch (gol.), The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen: Oxford University Press, 2009), t. 868.
  3. (Saesneg) "Companions of Literature", Y Gymdeithas Lenyddol Frenhinol. Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 23 Mawrth 2023.

Darllen pellach golygu

  • Isabel Quigly, The Royal Society of Literature: A Portrait (Llundain: Royal Society of Literature, 2000).

Dolen allanol golygu