Y Llen Haearn
Trosiad gwleidyddol oedd yn symboleiddio'r rhaniad yn Ewrop yn ystod y Rhyfel Oer yw y Llen Haearn. Yng Ngorllewin a De Ewrop, yr oedd gwledydd y Gymuned Ewropeaidd a NATO, ac yn Nwyrain Ewrop yr oedd gwledydd Comecon a Chytundeb Warsaw. Yn ffisegol, roedd rhai amddiffynfeydd ar ororau rhwng gwledydd y Gorllewin a'r Dwyrain, gan gynnwys Mur Berlin.
![]() Aelodau Cytundeb Warsaw yn goch; aelodau NATO yn las; gwledydd milwrol amhleidiol yn llwyd. Iwgoslafia yn wyrdd (gweler hollt Tito-Stalin). Albania yn llwyd gyda llinellau cochion (gweler yr hollt Tsieineaidd-Sofietaidd). | |
Enghraifft o: | political border, catchphrase ![]() |
---|---|
Daeth i ben | 19 Awst 1989 ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 5 Mawrth 1946 ![]() |
![]() | |
![]() |
Poblogeiddiodd Winston Churchill y term mewn araith ym 1946, gan ddatgan: "O Stettin yn y Baltig i Trieste yn yr Adriatig, mae llen haearn wedi disgyn ar draws y cyfandir. Y tu draw i'r llinell honno gorwedda holl brifddinasoedd gwaldwriaethau hynafol Canolbarth a Dwyrain Ewrop: Warsaw, Berlin, Prag, Fienna, Budapest, Beograd, Bwcarést, a Sofia. Mae pob un o'r dinasoedd enwog hyn, a'r poblogaethau sy'n eu hamgylchynu, yn gorwedd o fewn y cylch Sofietaidd, ac mae pob un ohonynt yn agored mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, nid yn unig i ddylanwad Sofietaidd ond hefyd i reolaeth gynyddol Moscfa."[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Alan Farmer, Cyflwyniad i Hanes yr Ewrop Fodern 1890–1990 (Aberystwyth: CAA, 2005), tt. 273–4.