Y Perlau
Grŵp canu pop Cymraeg ysgafn o'r 1960au hwyr oedd Y Perlau. Roeddynt yn dair merch o ardal Llanbedr Pont Steffan ac yn canu caneuon gwreiddiol yn arddull nifer o grwpiau acwstig Cymraeg y cynfod. Bu iddynt ymddangos ar deledu Cymraeg y cyfnod.[1]
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Iaith | Cymraeg |
Dod i'r brig | 1968 |
Dod i ben | 1970 |
Genre | Pop Cymraeg |
Ni ddylid drysu â Perlau Tâf, grŵp arall tebyg o Hendy-gwyn a atododd 'Tâf' i'w henw wedi deall bod grŵp o'r enw 'Y Perlau' eisoes wedi eu sefydlu.
Aelodau
golyguSefydlodd Dawn Evans, Rosalind Lloyd, a Llinos Jones grŵp 'Y Perlau' ym mis Mawrth 1968. Roedd ganddynt brofiad o ganu penillion ac yn gyfeillion cyn ffurfio'r grŵp. Wrth recordio'r record gyntaf roedd Dawn yn gweithio yng nghaffi ei rhieni ar brif stryd Llambed, Rosalind yn gweithio mewn swyddfa cyfreithiwr, a Llinos, oedd yn cyfansoddi nifer o'r caneuon a'r geiriau, yn byw ym mhentref Cellan ac yn ddisgybl ysgol ar y pryd.[2]
Aeth Rosalind ymlaen i briodi Myrddin Owen o grŵp Hogia'r Wyddfa gan ffurfio'r ddeuawd boblogaidd yn yr 1980au a'r 1990au Rosalind a Myrddin.
Disgyddiaeth
golyguCyhoeddwyd dau record gan y grŵp:[3]
- Caneuon: A1: Cariad, A2: Draw Dros Y Don. B1: Cyfamod, B2: Y Gamfa Goed.
- Caneuon: A1: La La La, A2: Tan Olaur Haul'. B1: Dyffryn Fy Mreuddwydion, B2: Gitarau Mwyn.
Record Amlgyfrannog
golyguBu i gân La, La, La Y Perlau ymddangos ar record hir amlgyfrannog Rhannu Hen Gyfrinachau Lleisiau merched canu pop a gwerin Cymru 1965-1975 a gyhoeddwyd gan Recordiau Sain yn 2017.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Y Perlau Discography". 45cat. Cyrchwyd 18 Ebrill 2024.
- ↑ "Y Perlau Discography". 45cat. Cyrchwyd 18 Ebrill 2024.
- ↑ "Y Perlau Discography". 45cat. Cyrchwyd 18 Ebrill 2024.
- ↑ "Rhannu Hen Gyfrinachau Lleisiau merched canu pop a gwerin Cymru 1965-1975". Gwefan Recordiau Sain. 2017. Cyrchwyd 18 Ebrill 2024.
Dolenni allanol
golygu