Perlau Tâf
Grŵp o ddisgyblion Ysgol Ramadeg Hendy-gwyn ar Daf oedd Perlau Tâf. Roedd y grŵp yn sillafu eu henw gyda'r hirnod, er nad oes angen un yn ôl sillafiad cywir Afon Taf, felly, gellir gweld yr enw Perlau Taf hefyd.[1] Ffurfiwyd hwy yn 1968 gan John Arfon Jones (athro mathemateg). [2] Roeddynt yn rhan o'r bwrlwm mewn grwpiau pop Cymraeg a chanu gwerin ysgafn yr 1960au hwyr ac 1970au cynnar. Aeth rhai aelodau, fel Tecwyn Ifan ymlaen i sefydlu grwpiau Ac Eraill a Beca yn yr 1970au.[3]
Enghraifft o: | band ![]() |
---|---|
Dod i'r brig | 1968 ![]() |
Dod i ben | 1975 ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1968 ![]() |
Genre | Pop Cymraeg, canu gwerin ![]() |
Lleoliad | Hendy-gwyn ar Daf ![]() |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/aa/Goreuon%2C_album_cover.jpg/250px-Goreuon%2C_album_cover.jpg)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/72/Ysgol_Dyffryn_Taf%2C_Whitland_-_geograph.org.uk_-_1262959.jpg/250px-Ysgol_Dyffryn_Taf%2C_Whitland_-_geograph.org.uk_-_1262959.jpg)
Aelodau
golyguY Perlau oedd ei enw'n gyntaf, ond newidiodd i Perlau Tâf gan fod gan grŵp arall yr un enw.[4] Ym mis Rhagfyr 1968 roeddynt yn cynnwys:-
- Tecwyn Evans, gitâr (16 oed) (Tecwyn Ifan yn hwyrach)
- Betty Williams, gitâr a llais (14) (hefyd Beti Williams)
- Carol Llewellyn, alaw (16) bu wedyn yn athrawes yn Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen, Treorci [5]
- Mary Rees, alto (16) (hefyd Mari Rees)
- Euros Evans, disgynnydd (12) (hefyd Euros Ifans, Euros Rhys)
- John Arfon Jones yn cyfeilio ar yr organ drydan
Cafwyd aelodau eraill dros amser:[6]
- Eirlys Evans, llais (disgybl yn Ysgol y Preseli)
- Siân Williams, llais
- Peter Rees, gitâr 12 tant, ffermwr o Solfach
Gyrfa
golyguYm 1972 roedden nhw’n rhif pump yn siartiau Cymru (o flaen Max Boyce).
Deg Uchaf Y Cymro:Rhagfyr 21 1972
- Deg o ganeuon — Hogia'r Wyddfa
- Yma mae Nghân – Dafydd Iwan
- Tecel — Hogia'r Wyddfa
- Gorau Cymro Cymro Oddi Cartref - Dafydd Iwan
- O Iesu Mawr — Perlau Tâf
- Mae Pawb yn Chwarae Gitar - Hogia'r Wyddfa
- O 'na le - Max Boyce
- Cadwaladr — Galwad y Mynydd
- Gwymon – Meic Stevens
- Lliwiau — Sidan
Yn ogystal â chyfeiriad at natur brydferth a phefriog cerddoriaeth y grŵp, mae'r enw Perlau Taf hefyd yn ôl Trevor Jones, ag arwyddocâd dyfnach, hanesyddol. O fewn cof byw mae afon Taf wedi cael ei physgota am berlau. Mae'r rhain wedi'u darganfod, ac yn ôl pob tebyg i'w cael o hyd, yn y fisglen ddŵr croyw (Margaritifera margaritifera). Hyd yma, ni ddarganfuwyd unrhyw gyfeiriad hanesyddol at bresenoldeb misglod perlog yn afon Taf ond mae cregyn gleision o’r fath wedi cael eu dal, ac yn dal i gael eu dal, gan bysgotwyr yn defnyddio mwydod fel abwyd ar gyfer eogiaid, sewin a brithyllod.[2]
Disgyddiaeth
golyguRhyddhaodd y grŵp sawl sengl ac EP. Dydy ddim yn glir os yw dau ohonynt heb deitl arbennig heblaw am Perlau Tâf, er bod , a'r ddau, yn ddryslyd yn 1972.[3] Er ceir y teitl O Iesu Mawr hefyd fel enw i'r ail rhyddhâd y flwyddyn honno.[7]
- Câr Y Rhain i Gyd / Cymru Rydd sengl 7"; Welsh Teldisc WD 915 1969
- Caneuon: Ochr 1: Câr y Rhain i Gyd (cyfieithiad o gân enwog Elvis Presley, 'Love me Tender'. Ochr B: Cymru Rydd.[8]
- Mynd Mae Ein Rhyddid Ni dau fersiwn; un 'push out centre' a'r llall yn 'solid centre' gan Welsh Teldisc a Teldisc Pops-Y-Cymro PYC 5437 1969
- Caneuon: Ochr 1: Mynd mae ein Rhyddid Ni; Mae'r Holl Fyd Heb Gariad; Dod Ar Fy Mhen; Rhyw Ddeigryn Bach; Can Dy Gan Rhen Gristion.[9]
- Daeth y Dydd EP 7" Welsh Teldisc a Teldisc Pops-Y-Cymro PYC 5440 1970
- Caneuon: Ochr A1: Daeth Y Dydd; A2: Mor Fawr Wyt Ti. Ochr B1: Beth Ddaw O Gymru Lan; B2 Cymru Lan.[10]
- Tyrd i Mewn EP 7" Teldisc Pops-Y-Cymro, Welsh Teldisc PYC 5442 1970
- Caneuon: Ochr A1 Tyrd I Mewn; A2 Y Tymhorau. Ochr B1 Dyma Nefoedd Fach I Mi; B2 Y Freuddwyd.[11]
- Perlau Tâf EP 7" Recordiau Cambrian CEP 481 1972
- Caneuon: Ochr A1 Cer i Ffwrdd; A2 Gwneud Rhywun Yn Llôn. Ochr B: Y Neges.[12]
- Perlau Tâf EP 7" Recordiau Cambrian CEP 486 1972
- Caneuon: Ochr A1: O Iesu Mawr; A2 A Oes Rhaid Dweud Ffarwel; Ochr B1 Y Llewod. Ochr B2 Y Ddwy Wydd Dew.[13]
- Coch Gwyn A Gwyrdd EP 7" Recordiau Sain SAIN 51E 1975
Gweler hefyd
golyguDolenni allanol
golygu- EP Coch, Gwyn a Gwyrd Perlau Tâf ar Youtube
- Perlau Tâf ar Esboniadur Cerddoriaeth Wici ar Porth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Coch, Gwyn a Gwyrdd, Perlai Tâf". Cwmni Recordiau Sain Ar Youtube. Cyrchwyd 9 Ebrill 2024.
- ↑ 2.0 2.1 "Ffynnon Taf Group". Gwefan Ffynnonwen School and Login History, Whitland, Carmarthenshire (Cilymaenllwyd Parish). 9 Ebrill 2009.
- ↑ 3.0 3.1 "Perlau Tâf". Discogs. Cyrchwyd 9 Ebrill 2024.
- ↑ "Perlau Taf". Archif Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 9 Ebrill 2024.
- ↑ "Perlau Tâf". Cant a Mil. Cyrchwyd 9 Ebrill 2024.
- ↑ "Perlau Tâf". Cant a Mil. Cyrchwyd 9 Ebrill 2024.
- ↑ "Perlau Tâf". Wici Esboniadur Cerddoriaeth Porth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cyrchwyd 9 Ebrill 2024.
- ↑ "Perlau Tâf". Discogs. Cyrchwyd 9 Ebrill 2024.
- ↑ "Mynd mae ein Rhyddid Ni". Discogs. Cyrchwyd 9 Ebrill 2024.
- ↑ "Daeth y Dydd". Discogs. Cyrchwyd 9 Ebrill 2024.
- ↑ "Tyrd i Mewn". Discogs. Cyrchwyd 9 Ebrill 2024.
- ↑ "Perlau Tâf". Discogs. Cyrchwyd 9 Ebrill 2024.
- ↑ "Perlau Tâf". Discogs. Cyrchwyd 9 Ebrill 2024.
- ↑ "Coch, Gwyn a Gwyrdd". Discogs. Cyrchwyd 9 Ebrill 2024.
- ↑ "Perlau Tâf". SoundCloud. Cyrchwyd 9 Ebrill 2024.