Gamal Abdel Nasser
Ail arlywydd yr Aifft oedd Gamal Abdel Nasser (hefyd Djamal Abd al-Nasser) (15 Ionawr 1918 – 28 Medi 1970).
Gamal Abdel Nasser | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
15 Ionawr 1918 ![]() Alexandria ![]() |
Bu farw |
28 Medi 1970 ![]() Achos: trawiad ar y galon ![]() Cairo ![]() |
Dinasyddiaeth |
Yr Aifft ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
gwleidydd, person milwrol ![]() |
Swydd |
President of Egypt, Prime Minister of Egypt, chairperson of the Organisation of African Unity, Secretary General of the Non-Aligned Movement, Prime Minister of Egypt, Prime Minister of Egypt, Prime Minister of Egypt ![]() |
Plaid Wleidyddol |
Arab Socialist Union ![]() |
Mudiad |
Nasserism ![]() |
Priod |
Tahia Kazem ![]() |
Plant |
Khalid Abdel Nasser ![]() |
Gwobr/au |
Urdd Lenin, Arwr yr Undeb Sofietaidd, Gwobr Cymdeithion O. R. Tambo, Order of the Nile, Urdd Rhosyn Wen y Ffindir, Gwobr Urdd y Goron a'r Frenhiniaeth, Maleisia ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Ganed Nasser yn Alexandria, ac yn 16 oed roedd eosoes yn arweinydd mudiad myfyrwyr yn gwrthwynebu dylanwad Prydeinig yn yr Aifft. Ymunodd a'r fyddin, ac ymladdodd yn Rhyfel Israel-Arabiaidd 1948, gan gael ei anafu.
Roedd yn rhan o'r grŵp swyddogion a orfododd y brenin Faruk I i ymddiswyddo yn 1952, a dilynwyd hyn gan gyhoeddi'r Aifft yn Weriniaeth yn 1953 gyda Ali Mohammed Naguib yn Arlywydd cyntaf. Daeth Nasser yn Weinidog dros Faterion Cartref. Yn 1954, gorfodwyd Neguib i ymddiswyddo, ac yn 1956 daeth Nasser yn Arlywydd, swydd a ddaliodd hyd ei farwolaeth yn 1970. Pan ffurfiwyd y Weriniaeth Arabaidd Unedig trwy uno yr Aifft a Syria yn 1958, Nasser oedd Arlywydd y wladwriaeth newydd, a'i hunig arlywydd, gan i Syria ymwahanu eto yn 1961. Ar y llwyfan ryngwladol, roedd yn arweinydd blaenllaw o'r Mudiad Amhleidiol.
Yn ystod cyfnod Nasser fel Arlywydd yr adeiladwyd Argae Aswan ar draws Afon Nîl yn ne yr Aifft. Enwyd y gronfa ddŵr enfawr a ffurfiwyd wedi adeiladu'r argae yn Llyn Nasser ar ei ôl.