Y Siswrn
Cyfrol yw Y Siswrn o waith y nofelydd Daniel Owen a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1886 ond sy'n cynnwys amrywiaeth o ddeunydd a luniwyd eisoes droes y ddegawd flaenorol.[1] Mae'r gyfrol yn cynnwys cymysgedd o straeon byrion, barddoniaeth a rhyddiaith fer: is-deitl y cyhoeddiad gwreiddiol oedd "Detholion prudd a diddanol, newydd a hen."
Braslun
golyguParatowyd a chyhoeddwyd y gyfrol mewn cyfnod cymharol byr er mwyn manteisio ar lwyddiant nofel Owen, Rhys Lewis, oedd wedi'i chyhoeddi y flwyddyn flaenorol.[2]
Mae'r gyfrol yn cynnwys dwy stori fer. Roedd y cyntaf o'r rhain, Cymeriadau Methodistaidd, yn ran o gyhoeddiad cyntaf Owen, Offrymau Neilltuaeth, a gyhoeddwyd yn ôl yn 1878; hon oedd darn ffuglen rhyddiaith cynharaf y nofelydd. Yr ail oedd Yr Ysmygwr, "cyfraniad mwyaf cyffrous" y gyfrol, sef stori newydd nad oedd wedi'i chyhoeddi cyn hynny ac a luniwyd yng nghanol yr 1880au.[1] Disgrifiwyd y stori gan Saunders Lewis fel campwaith.[3] Ar wahân i'r ddwy stori yma, mae'r gyfrol yn cynnwys ystod o ddeunyddiau rhyddiaith fer, rhai ohonynt yn ddychanol fel Y Bethma a Llythyr fy Nghefnder ac sy'n trafod rhai o faterion cyfoes yr oes. Yn ogystal â'r rhyddiaith mae'r gyfrol hefyd yn casglu ynghyd nifer o gerddi yr awdur.
Cafwyd argraffiadau eto o Y Siswrn, y mwyaf diweddar yn 1932; fodd bynnag yn 2024 cyhoeddwyd Yr Ysmygwr: Rhyddiaith Fer a Barddoniaeth gan Melin Bapur, cyfrol newydd yn dwyn ynghyd holl gynnwys Y Siswrn gyda darnau eraill gan yr awdur nad owedd wedi eu cyhoeddi mewn llyfr o'r blaen.
Arall
golyguMae'r siop lyfrau Siop y Siswrn yn yr Wyddgrug wedi'i enwi ar ôl y gyfrol.
Gweler Hefyd
golygu- Y Siswrn ar Wicidestun.