Taj Mahal
(Ailgyfeiriad o Y Taj Mahal)
Mae'r Taj Mahal (Hindi : ताज महल, Wrdw : تاج محل) yn gasgliad o adeiladau a adeiladwyd rhwng 1631 a 1654 yn ninas Agra, India, ar lannau Afon Yamuna, gan yr ymerawdwr Mughal Sha Jahan. Bwriedid yr adeiladau i goffáu ei brif wraig, Arjumand Bano Begum, mwy adnabyddus fel Mumtaz Mahal, a fu farw ar enedigaeth ei 14eg plentyn. Amcangyfrifir i tua 20,000 o weithwyr gael eu defnyddio.
Math | mawsolëwm, beddrod, atyniad twristaidd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Mumtaz Mahal |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Agra, Uttar Pradesh |
Gwlad | India |
Arwynebedd | 17 ha |
Cyfesurynnau | 27.175°N 78.0419°E |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Islamaidd, pensaerniaeth Iranaidd, pensaerniaeth Mughalaidd |
Statws treftadaeth | Heneb o Bwysigrwydd Cenedlaethol, Safle Treftadaeth y Byd |
Sefydlwydwyd gan | Shah Jahan |
Cost | 32,000,000 $ (UDA) |
Manylion | |
Deunydd | marmor |
Ystyrir y Taj Mahal fel yr esiampl orau o bensaernïaeth y Mughal, sy'n cyfuno elfennau o bensaernïaeth Islamaidd, Persaidd a Thwrcaidd. Y rhan fwyaf adnabyddus yw mawsolewm Mumtaz Mahal, gyda'i gromen o farmor gwyn, ond mewn gwirionedd mae nifer o adeiladau yn rhan o'r Taj Mahal.