Y Tywysog Andrew, Dug Caerefrog
Y Tywysog Andrew, Dug Caerefrog (Andrew Albert Christian Edward; ganwyd 19 Chwefror 1960) yw ail fab a thrydydd plentyn Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig a Thywysog Philip, Dug Caeredin a'r 3ydd yn yr olyniaeth am goron y Deyrnas Unedig.
Y Tywysog Andrew | |||||
---|---|---|---|---|---|
Dug Caerefrog | |||||
Andrew yn 2017 | |||||
Ganwyd | Y Tywysog Andrew o Caeredin 19 Chwefror 1960 Palas Buckingham, Llundain, Lloegr | ||||
Priod | Sarah Ferguson (pr. 1986; ysg. 1996) | ||||
Plant |
| ||||
| |||||
Teulu | Windsor | ||||
Tad | Y Tywysog Philip, Dug Caeredin | ||||
Mam | Elisabeth II |
Mae'n adnabyddus am ei wasanaeth milwrol a'r rhan a chwaraeodd yn Rhyfel y Falklands, am ei ffling efo Koo Stark yn y 1970au ac am ei gysylltiad gyda'r paedoffil Jeffrey Epstein yn y 2010au. Ei lysenw yw "Randy Andy"[1] Chwalodd priodas Andrew â Sarah Ferguson, digwyddiad a gafodd cryn dipyn o sylw gan y papurau newyddion tabloid. Arferai weithio fel Cynrychiolydd Arbennig y Deyrnas Unedig o ran Buddsoddiad a Masnach Rhyngwladol, hyd at 2011 ac ar 20 Tachwedd 2019 dywedodd na fyddai'n ymgymryd a dyletswyddau brenhinol yn rhagor.[2]
Mae hefyd yn adnabyddus am sawl sgandal, gan gynnwys y cyhuddiad ei fod yn gysylltiedig â'r pedoffil Jeffrey Epstein. Honir iddo gael rhyw gyda merch a oedd dan oed, Virginia Roberts ar 10 Mawrth 2001. Yn Nhachwedd 2019 ymddangosodd ar y rhaglen Newsnight gan wadu'r honiadau hyn.[3] Ar 13 Ionawr 2022, collodd y Tywysog ei teitlau brenhinol seremoniol.[4]
Bywyd Cynnar ac Addysg
golyguGanwyd Andrew yn yr Ystafell Felgaidd ym Mhalas Buckingham ar y 19eg o Chwefror 1960. Ef oedd trydydd plentyn ac ail fab Elizabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig a Thywysog Philip, Dug Caeredin, a thrydydd wyr y Frenhines Elizabeth, y Fam Frenhines. Cafodd ei fedyddio yn Ystafell Gerddoriaeth y palas ar yr 8fed o Ebrill 1960 gan Archesgob Caergaint y cyfnod, Geoffrey Fisher. Ei rieni bedydd oedd y Tywysog Henry, Dug Caerloyw; y Dywysoges Alexandra, Arglwyddes Anrhydeddus Ogilvy, John Elphinstone, Arglwydd Elphinstone; Hugh FitzRoy, Iarll Euston; a Georgina, yr Arglwyddes Kennard, a chafodd ei enwi ar ôl ei dadcu ar ochr ei dad, y Tywysog Andrew o Wlad Groeg a Denmarc.
Apwyntiwyd athrawes i edrych ar ôl y tywysog, fel y gwnaethpwyd gan ei frawd a'i chwaer, a hi oedd yn gyfrifol am ei addysg cynnar ym Mhalas Buckingham, yna danfonwyd Andrew i Ysgol Baratoi Heatherdown cyn iddo fynychu Gordonstoun yng ngogledd yr Alban ym mis Medi 1973. Graddiodd Andrew ym mis Gorffennaf ddwy flynedd yn ddiweddarach gyda Lefel A yn Hanes, Economeg a Gwyddoniaeth Gwleidyddol. Nid aeth Andrew i brifysgol ond mynychodd Goleg Llyngesol Brenhinol Brittania yn Dartmouth.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ http://www.express.co.uk/news/royal/471095/Koo-Stark-s-racy-past-ended-her-relationship-with-Prince-Andrew Yr Express; accessed 11 Hydref, 2014
- ↑ Quinn, Ben (20 November 2019). "Prince Andrew to step back from public duties 'for foreseeable future'". The Guardian. London, England: Guardian Media Group. Cyrchwyd 20 Tachwedd 2019.
- ↑ "As it happened: Prince Andrew's Interview". BBC News. 16 Tachwedd 2019. Cyrchwyd 16 Tachwedd 2019.
- ↑ "Prince Andrew loses military titles and patronages". BBC News (yn Saesneg). 2022-01-13. Cyrchwyd 13 Ionawr 2022.