Y ffin rhwng Belarws ac Wcráin

Mae'r ffin rhwng Belarws ac Wcráin yn ymestyn rhyw 1,084 km (674 mi) o'r fan driphlyg â Gwlad Pwyl yn y gorllewin i'r fan driphlyg â Ffederasiwn Rwsia yn y dwyrain. Rhed y goror drwy ranbarth Polesia, ac i'r gogledd mae oblastau Brest a Gomel ym Melarws ac i'r de mae oblastau Volyn, Rivne, Zhytomyr, Kyiv, a Chernihiv yn Wcráin.

Y ffin rhwng Belarws ac Wcráin
Croesfan Senkovka yn Oblast Chernihiv, Wcráin, ger y fan driphlyg â Belarws a Rwsia.
Mathffin, ffin ar dir, ffin rhyngwladol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolborders of Belarus, State Border of Ukraine Edit this on Wikidata
GwladBaner Belarws Belarws
Baner Wcráin Wcráin
Cyfesurynnau51.5°N 23.63°E, 52.12°N 31.78°E Edit this on Wikidata
Hyd891 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Yn y gorllewin, mae'r ffin yn cychwyn o Afon Bug, sydd yn ffurfio rhan o'r gororau rhwng y ddwy wlad a Gwlad Pwyl. Oddi yno mae'n troelli i ogledd ardal Llynnoedd Shatsk ac yn croesi Afon Pripyat cyn ymestyn drwy Gorsydd Pinsk, un o'r gwlyptiroedd mwyaf yn Ewrop, am y rhan fwyaf o'i hyd. Mae'n croesi Afon Pripyat eto rhyw 20 km (12 mi) i ogledd-orllewin dinas Chornobyl, Wcráin, ac yna'n dilyn cwrs gogleddol i fyny Afon Dnieper nes iddi groesi ffordd yr E5, ac estyn eto i'r dwyrain hyd at y groesfan rhwng ffordd y P124 ym Melarws a'r P13 yn Wcráin.

Yn ystod goresgyniad Wcráin gan Rwsia yn Chwefror 2022, cyhuddwyd Belarws gan lywodraeth Wcráin a chynghrair NATO o ganiatáu i luoedd Rwsia ymgynnull ar hyd y ffin ac oddi yno i lansio cyrchoedd ar diriogaeth Wcráin.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Victor Mallet ac Henry Foy, "Nato alarmed by Belarus role in Ukraine assault", Financial Times (25 Chwefror 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 25 Chwefror 2022.