Rhanbarth hanesyddol a ffisiograffig yn Nwyrain Ewrop yw Polesia neu Polisia (Belarwseg: Палессе Paliessie, Wcreineg: Полісся Polissia, Pwyleg: Polesie, Rwseg: Полесье Polesye) sydd yn ymestyn o ddwyrain canolbarth Gwlad Pwyl yn y gorllewin, ar hyd y ffin rhwng Belarws ac Wcráin, hyd at dde-orllewin Ffederasiwn Rwsia. Iseldir coediog eang ydyw sydd yn cynnwys corsydd a thywotiroedd, ac sydd yn rhan o Wastatir Mawr Ewrop.

Polesia
Map topograffig o Ddwyrain Ewrop gyda rhanbarth Polesia mewn lliw gwyrdd tywyll.
Mathtirlun Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolPolesie National Park Edit this on Wikidata
Rhan o'r canlynolPolesian Lowland Edit this on Wikidata
GwladBaner Belarws Belarws
Baner Gwlad Pwyl Gwlad Pwyl
Baner Rwsia Rwsia
Baner Wcráin Wcráin
Cyfesurynnau52°N 27°E Edit this on Wikidata
Map

Yn Polesia lleolir yr ardaloedd gweinyddol canlynol: foifodiaeth Lublin yng Ngwlad Pwyl; oblastau Brest a Gomel a rhannau deheuol Minsk a Mogilev ym Melarws; oblastau Volyn, Rivne, a Zhytomyr a rhannau gogleddol Kyiv a Chernihiv yn Wcráin; ac Oblast Bryansk yn Rwsia. Mae'r rhanbarth yn ffinio ag Ucheldiroedd Belarws i'r gogledd, Podlasia i'r gogledd-orllewin, Pwyl Fechan i'r gorllewin, Halychyna i'r de-orllewin, rhanbarth Wcreinaidd y Dnieper i'r de, Sloboda Wcráin i'r de-ddwyrain, ac ucheldiroedd Smolensk a Chanolbarth Rwsia i'r dwyrain.

Hanes golygu

Bu Polesia dan reolaeth Rws Kiefaidd nes iddi gael ei chyfeddiannu i Dywysogaeth (yn ddiweddarach Teyrnas) Galisia–Volyn ym 1199. Yn sgil cwymp y deyrnas ym 1349, daeth Polesia yn rhan o Uchel Ddugiaeth Lithwania. O ganlyniad i Undeb Lublin (1569), rhennid Polesia rhwng Lithwania yn y gogledd a Theyrnas Pwyl yn y de, y ddwy yn rhan o'r Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd. Wedi rhaniadau'r Gymanwlad yn niwedd y 18g, daeth Polesia yn rhan o Ymerodraeth Rwsia. Trosglwyddwyd yr holl ranbarth bron i Weriniaeth Pobl Wcráin dan Gytundeb Brest-Litovsk (1918), ond yn sgil Cytundeb Riga (1921) fe'i rhennid eto rhwng Gweriniaeth Pwyl a'r Undeb Sofietaidd. Wedi i'r Fyddin Goch feddiannu'r diriogaeth Bwylaidd ym Medi 1939, cyfeddiannwyd y rhan fwyaf o orllewin y rhanbarth i Weriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Belarws.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Ivan Katchanovski, Zenon E. Kohut, Bohdan Y. Nebesio, a Myroslav Yurkevich, Historical Dictionary of Ukraine (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2013), tt. 455–56.