Y galdrist gulddail
Cephalanthera longifolia | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Monocotau |
Urdd: | Asparagales |
Teulu: | Orchidaceae |
Genws: | Cephalanthera |
Rhywogaeth: | C. damasonium |
Enw deuenwol | |
Cephalanthera longifolia (Philip Miller) Druce (1906) | |
Cyfystyron | |
|
Tegeirian yw Y galdrist gulddail sy'n enw benywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Orchidaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Cephalanthera longifolia a'r enw Saesneg yw Narrow-leaved helleborine.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Caldrist Culddail.
Mae'n blanhigyn blodeuol nodedig ac fel eraill o deulu'r Orchidaceae, mae'r blodau'n hynod liwgar mae'n cynhyrchu arogl da. Enw'r genws yw Orchis, sy'n tarddu o Hen Roeg ὄρχις (órkhis), sy'n golygu caill; mae hyn yn cyfeirio at gloron deuol rhai tegeirianau.[2]
Ecoleg
golyguDyma ddywed yr Atlas Planhigion [2]: Planhigyn cynhenid lluosflwydd rheisomaidd a ganfyddir ar amryw fathau o goetiroedd pridd calchog. Mae’n hoffi clytiau parhaol o olau yn y coed ar lethrau serth, caregog, ar hyd ymylon y goedwig, ar hyd ochrau llwybrau, neu mewn prysglwyni.
Bu trai pendant ar y planhigyn yn y 19g a’r 20g, yn enwedig cyn 1970. Er y byddai’r ffashiwn o gasglu tegeiriannau wedi achosi rhywfaint o golledion mae’n debyg mai darfod ar fathau arbennig o reoli coetiroedd a phlannu coed conifferaidd oedd y prif reswm, y ddau yn esgor ar awyrgylch llawer tywyllach.
Cofnodion hanesyddol
golygu“Tegeirian yr Allt Wen”, Llanddeiniolen: Yn 1821 argraffwyd llyfr yn dwyn yr enw Tourist’s Guide through the County of Caernarvonshire gan y Parch. Peter Bayley Williams, rheithor Llanrug ar y pryd. Cofrestrodd enwau amryw o flodau a dyfai yn y fro. Un o’r planhigion hyn oedd tegeirian prin iawn yn tyfu yng nghoed yr Allt Wen ar ochr Llanddeiniolen o Lyn Padarn sef Cephalanthera longifolia ac yn y Saesneg long-leaved helleborine.[3]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
- ↑ Joan Corominas (1980). Breve Diccionario Etimológico de la Lengua Castellana. Ed. Gredos. t. 328. ISBN 84-249-1332-9.
- ↑ Pigion o‘r Papurau Bro ym Bwletin Llên Natur 53 [1], a godwyd o Les Larsen “Ar Lwybr Natur” (yn Eco’r Wyddfa 1982) a’i lun a dynnwyd ar y pryd.