Yann-Vari Perrot
Offeiriad a chenedlaetholwr Llydewig oedd yr abbé Yann-Vari Perrot, Ffrangeg: Jean-Marie Perrot (3 Medi 1877 – 12 Rhagfyr 1943).
Yann-Vari Perrot | |
---|---|
Ganwyd | 3 Medi 1877 Plouarzhel |
Bu farw | 12 Rhagfyr 1943 Skrigneg |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig, bardd, llenor |
Ganed Perrot yn Plouarzhel, Penn-ar-Bed i deulu Llydaweg ei iaith. Astudiodd i fynd yn offeiriad, ac yn 1904 daeth yn ficer Sant-Nouga. Sefydlodd Bleun-Brug ("Blodau'r Grug") yn 1905, i gefnogi'r diwylliant Llydewig a Chatholigiaeth, ac wedi 1911 daeth yn olygydd y cylchgrawn Feiz ha Breiz ("Ffydd a Llydaw"). Daeth yn ficer Saint-Thégonnec yn 1914, yna bu'n ymladd ym myddin Ffrainc yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Daeth yn amlwg yn Emsav, y mudiad cenedlaethol Llydewig.
Yn 1920, daeth yn ficer Plougerne. Yn 1930 symudwyd ef gan yr eglwys, oedd yn anhapus ynghylch ei waith gwleidyddol, i blwyf Skrigneg, lle roedd gwleidyddiaeth adain-chwith yn gryf. Dathlwyd ef gan y gymdeithas ddiwylliannol Bleun-Brug yn 1936, am hybu pethau Llydaweg yn cynnwys theatr, cerddoriaeth, ysgrifennu a'r mudiad ieuenctid, mewn rhifyn arbennig o ‘’Oeuvres Bretonnes’’ Pan feddiannwyd Llydaw gan fyddin yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cyhuddwyd ef o gydweithio gyda'r Almaenwyr. Ar 12 Rhagfyr 1943, llofruddiwyd ef gan aelod o'r Blaid Gomiwnyddol,
Wedi ei farwolaeth, defnyddiodd Célestin Lainé ei enw ar gyfer Bezen Perrot, a ffurfiwyd i gefnogi'r Almaen.
Llyfryddiaeth
golygu- R. G. Berry, Eun nozveziad reo gwenn Trosiad i'r Llydaweg gan Geraint Dyfnallt Owen ac Yann-Vari Perrot o Noson o Farrug , (Plougerne, 1928). [Drama] Perfformwyd yr un flwyddyn gan cwmni theatr Bleun-Brug yn Lesneven 1928. http://bibliotheque.idbe-bzh.org/document.php?id=eun-nozveziad-reo-gwenn-18682&l=fr Archifwyd 2020-08-20 yn y Peiriant Wayback
- Rhifyn arbennig 1936 o ‘’Oeuvres Bretonnes’’http://bibliotheque.idbe-bzh.org/data/cle_52/Bulletin_de_lUnion_des_Oeuvres_Bretonnes_1936_nA78_.pdf Archifwyd 2019-03-06 yn y Peiriant Wayback