Noson o Farrug
Mae Noson o Farrug yn ddrama fer mewn un act gan Robert Griffith Berry (1869-1945). Mae'n ymwneud â'r perthynas rhwng tad, mam a chwaer â'u mab / brawd afradlon a oedd newydd ddychwelyd adref ar ôl gadael cartref dan gwmwl blynyddoedd ynghynt.[1]
Enghraifft o'r canlynol | drama |
---|---|
Awdur | R. G. Berry |
Cyhoeddwr | Educational Publishing Co. |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1915 |
Lleoliad cyhoeddi | Caerdydd |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
Cymeriadau
golyguDau ddyn a ddwy ddynes:—
- WILIAM HUWS — Tad.
- ELIN HUWS — Mam.
- JANE — Y Ferch.
- DIC — Y Mab.
Plot
golyguLleolir y ddrama mewn cegin ffermdy bychan. Mae'r stori yn cychwyn yn hwyr ar nos Sadwrn gaeafol, gyda golygfa sy'n dangos Elin Huws a Jane yn paratoi at fynd i'r gwely. Mae Elin tua 70 mlwydd oed ac yn wannaidd iawn ei hiechyd. Mae'n siarad mewn llais cwynfanus, fel un wedi hir ddioddef cystudd. Mae Jane tua 40 mlwydd oed, ac yn tueddu i fod yn oer a chaled ei natur. Mae profiad y blynyddoedd wedi ei suro i fesur. Mae Elin yn dweud wrth Jane ei bod wedi breuddwydio am ei mab, Dic, yn dychwelyd adref. Cafodd Dic ei droi allan o'r cartref teuluol gan ei dad rhyw pum mlynedd ynghynt am ryw bechod neu dramgwydd (sy ddim yn cael ei ddatgelu) gyda rhybudd i beidio dychwelyd. Mae William Huws, y tad, wedi rhoi siars i'w wraig a'i ferch i beidio crybwyll enw'r bachgen eto. Mae Jane yn tueddu cytuno efo barn ei thad am ei brawd ac yn methu deall pam fod gan Elin teimladau annwyl a hiraethus amdano o hyd.
Mae'r tad yn dod i mewn ac yn rhoi siars i Jane i ddarfod y gwaith smwddio dillad y mae hi'n ei wneud, gan ei fod yn agosáu at ddechrau'r Sul, ac fel gŵr hynod grefyddol mae o'n gwrthwynebu pobl yn torri'r Sabath trwy weithio. Yn ôl arfer crefyddwyr y cyfnod mae Mr Huws yn darllen pennod o'r Beibl i'w teulu cyn iddynt noswylio. Wedi bod yn breuddwydio a meddwl am Dic (yn ddiarwybod i'w gŵr) mae Elin yn gofyn iddo ddarllen Dameg y Mab Afradlon. Wrth i'r ysgrythur cael ei ddarllen clywir cnoc ar y drws. Wrth ateb y curiad ar y drws mae Jane yn canfod Dic ei brawd yn sefyll yno. Mae Elin yn cyffroi am ddychweliad y mab ac mae hi'n adrodd y "geiriau o groeso" o stori'r Mab Afradlon: "Fy mab hwn oedd farw ac a aeth yn fyw drachefn, efe a gollesid ac a gaed."[2] Mae'r tad yn gwylltio efo hi am halogi'r ysgrythur trwy ddefnyddio ei eiriau am un mor ffiaidd â Dic. Er gwrthod rhoi croeso na faddeuant i'w mab mae William yn caniatáu Dic i aros yn y cartref hyd y peth cyntaf bore Llun. Nid cariad neu ddyletswydd sydd yn gyfrifol am ganiatáu i Dic aros, ond am nad yw Mr Huws am gweld y Sabath yn cael ei dorri yn ei gartref, trwy i rywun cychwyn siwrnai o'r tŷ ar y Sul. Mae'r tad, y mam a'r ferch yn mynd i fyny'r grisiau i'w gwlâu gan adael Dic i gysgu ar y soffa.
Wedi methu cysgu gan euogrwydd am y modd y bu'n trin ei fab, mae William yn codi yng nghanol nos ac yn mynd i lawr y grisiau gyda blancedi i wneud Dic yn gysurus ar y soffa. Mae'n canfod nad yw Dic yno. Mae'n rhedeg i'r drws i weiddi am ei fab, heb gael ateb. Mae'r stŵr yn achosi Jane i godi hefyd. Mae William yn mynd allan o'r tŷ i chwilio am Dic. Wedi dychwelyd i'r tŷ mae'n dweud wrth Jane ei fod wedi darganfod corff Dic, wedi marw o oerni yn y berllan. Mae'r stori yn diweddu gyda William yn beio ei hun am achosi marwolaeth ei unig fab trwy ystyfnigrwydd a methu maddau.[3]
Beirniadaeth
golyguPerfformiwyd y ddrama am y tro cyntaf yng Nghapel Annibynwyr Gwaelod-y-garth ar 1 Ionawr 1915. Cafwyd adolygiad o'r perfformiad yn Y Cymro gan Y Parch O. T. Davies Llanfyllin.[4]
Ar hyd llinellau y mab afradlon yr oedd yn rhedeg, ac yn dryfrith ynddi yr oedd llawer iawn o ddelweddau y bywyd Cymreig. Yn hyn y mae ei gwerth. Y mae'r ffeithiau yn "true to nature," chwedl Will Bryan, ac y mae yn cyffwrdd a chalon y Cymro yn herwydd hynny. Ond pe buasai y ddrama hon yn cael ei chwarae yn Seisneg ni fuasai fawr o lewyrch arni. Pe darllenasid y ddrama mewn cold print,' nid oedd ynddi fawr o ddim i dynnu deigryn, ond pan yn cael ei chwarae gan wŷr celfyddydol o alluoedd uwchraddol yn y gelf y mae yn dod, yn beth byw, trydanol, ac y mae dagrau'n felys, y mae wylo'n hyfryd.
Hawlfraint
golyguMae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Gan fod R. G. Berry wedi marw dros 70 o flynyddoedd[5] yn ôl mae Noson o Farrug bellach allan o hawlfraint. Mae hawl gan unrhyw un ei berfformio, ei addasu, ei ddiweddaru ac ati heb ymofyn hawl na chaniatâd. Mae copi o'r sgript ar gael ar Wicidestun.
Cyfieithiad
golyguCyfieithwyd y ddrama i'r Llydaweg ym 1928 gan Geraint Dyfnallt Owen ac Yann-Vari Perrot o dan y teitl Eun nozveziad reo gwenn.[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Noson o farrug; drama fer mewn un act | WorldCat.org". search.worldcat.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-03-24.
- ↑ "Bible Gateway passage: Luc 15:11-32 - Beibl William Morgan". Bible Gateway. Cyrchwyd 2024-03-24.
- ↑ Berry, Robert Griffith (1915). Noson o Farrug. Caerdydd: William Lewis.
- ↑ "TAIR DRAMA - Y Cymro". Isaac Foulkes. 1915-01-27. Cyrchwyd 2024-03-24.
- ↑ "BERRY, ROBERT GRIFFITH (1869 - 1945), gweinidog Annibynnol, awdur a dramodydd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2024-03-24.
- ↑ "Eun Nozveziad Reo Gwenn". bibliotheque.idbe.bzh (yn Llydaweg). Cyrchwyd 2024-03-24.