Yma: Yr Ynys
Nofel gan Lleucu Roberts yw Yma: Yr Ynys, sy'n rhan o drioleg Yma.
Ffuglen ydy hi yn y flwyddyn 2140, ar ôl bomiau niwclear ddod yn agos i ddinistrio bywyd o'r Ddaear yn gyfan gwbl yn 2030. Yn 2030 aeth 49 o bobl fynd i guddiad mewn ogof yn y Cylch Artic. Canrif yn ddiweddarach, ar ôl 2030 mae cymuned wedi ffurfio yno. Mae'r ynyswyr yn cynllunio gwneud trip yn ôl i'w gwreiddiau, ble roedd 'Mam Un,' dynes oedd yn byw yn Aberystwyth yn wreiddiol, ac yn byw adeg y 'Diwedd Mawr' (pryd wnaeth y bomiau niwclear ollwng) yn yr ogof yn byw, a dyna sut fod Cai, Gwawr (prif gymeriadau'r drioleg) a rhai eraill yn medru siarad y Gymraeg.
Gwelwn drwy gydol y llyfr fod dyddiadur 'Mam Un' yn cael ei sôn amdano, yn enwedig gan Wawr gan ei bod hi eisiau ail-ysgrifennu'r dyddiadur cyfan. Mae 'Mam Un' fel dynes gyffredin yn ein hoes ni, ond fel duwies i rai o'r Ynyswyr.
Y Drioleg
golyguY tri llyfr yn y gyfres 'Yma:' yw Yma: Yr Ynys (y gyntaf), Yma: Hadau ac Yma: Afallon. Mae'r llyfrau'n amlinellu themâu pwysig yn ein byd ni ar hyn o bryd, fel gwleidyddiaeth, ymbelydredd niwclear a chynhesu byd eang.