Lleucu Roberts
awdures plant
Awdures plant Cymreig yw Lleucu Roberts (ganed 27 Medi 1964). Ganwyd Lleucu yn Aberystwyth a chafodd ei magu yn ardal Bow Street, Ceredigion, erbyn hyn mae hi'n byw yn Rhostryfan, Gwynedd.[1] Addysgwyd yn Ysgol Gynradd Rhydypennau, Ysgol Gyfun Penweddig a Phrifysgol Aberystwyth. Mae hefyd yn sgriptio ar gyfer y radio a'r teledu. Mae'n briod â dwy ferch a dau fab.
Lleucu Roberts | |
---|---|
Ganwyd |
27 Medi 1964 ![]() Aberystwyth ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
awdur plant, ysgrifennwr ![]() |
Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen a'r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014, y person cyntaf i gipio'r ddwy brif wobr ryddiaith yn yr un flwyddyn.[2]
LlyfryddiaethGolygu
- Caneuon Heddwch (Y Lolfa, Ionawr 1991)
- Al (Cyfres y Dolffin) (Cwmni Iaith, Mawrth 1996)
- Iesu Tirion (Y Lolfa, Ebrill 2005)
- Troi Clust Fyddar (Y Lolfa, Tachwedd 2005)
- Annwyl Smotyn Bach (Y Lolfa, Ionawr 2008)
- Y Ferch ar y Ffordd (Y Lolfa, Gorffennaf 2009)
- Stwff – Guto S. Tomos (Cyfres yr Onnen) (Y Lolfa, Mawrth 2010)
- Nain/Mam-gu (Gwasg Gwynedd, Tachwedd 2010)
- Wel, Gymru Fach (Cyfres y Dderwen) (Y Lolfa, Mehefin 2011)
- Siarad (Cyfres y Dderwen) (Y Lolfa, Hydref 2011)
- Rhyw Fath o Ynfytyn (Y Lolfa, Awst 2012)
- Teulu (Y Lolfa, Tachwedd 2012)
- Oswald (Y Lolfa, Ionawr 2014)
- Rhwng Edafedd (Y Lolfa, Awst 2014)
- Saith Oes Efa (Y Lolfa, Medi 2014)
- Jwg ar Seld (Y Lolfa, Tachwedd 2016)
- Tinboeth (gyda Caryl Lewis, Eigra Lewis Roberts, Meg Elis, Gwen Lasarus, Bethan Gwanas, Gwyneth Glyn, Siân Northey a Fflur Dafydd) (Gwasg Gwynedd, Tachwedd 2007)
Gwobrau ac AnrhydeddauGolygu
- Gwobr Tir na n-Og 2009 ar gyfer Annwyl Smotyn Bach
- Gwobr Tir na n-Og 2011 ar gyfer Stwff – Guto S. Tomos
- Gwobr Goffa Daniel Owen 2014
- Medal Ryddiaith 2014
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Annwyl Smotyn Bach. Gwales.com. Adalwyd ar 12 Mai 2011.
- ↑ Y Dwbl i Lleucu golwg360.com 6 Awst 2104