Ymgyrch Condor
Ymgyrch ddirgel o ormes wleidyddol a weithredwyd gan lywodraethau adain-dde yn Ne America yn y 1970au oedd Ymgyrch Condor (Sbaeneg: Operación Cóndor neu Plan Cóndor, Portiwgaleg: Operação Condor) oedd yn cynnwys bradlofruddio, herwgipio, artaith, diflaniad gorfodol, a gweithredoedd cudd-wybodaeth. Aelodau'r cynllun oedd yr Ariannin, Bolifia, Brasil, Paragwâi, Tsile, ac Wrwgwái. Bwriad y rhaglen oedd i gael gwared ar ddylanwad a syniadau sosialaidd a chomiwnyddol ac i reoli mudiadau oedd yn gwrthwynebu'r llywodraethau. Amcangyfrifir i 15,000–30,000 o bobl farw o ganlyniad i Ymgyrch Condor.[1]
Enghraifft o'r canlynol | political repression |
---|---|
Dechreuwyd | 25 Tachwedd 1975 |
Daeth i ben | 1989 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Wedi iddo gipio grym yn Tsile ym 1973, cychwynnodd yr Arlywydd Augusto Pinochet ar ymgyrch o ormes yn erbyn yr adain chwith. Sefydlwyd cynllun ffurfiol rhwng y chwe gwlad mewn cyfarfod o gynrychiolwyr cudd-wybodaeth filwrol ar 25 Tachwedd 1972, pen-blwydd Pinochet yn 60 oed. Cytunodd y llywodraethau i ddanfon timau i wledydd ei gilydd i gadw golwg ar wrthwynebwyr gwleidyddol ac i'w lladd. Cafodd canolfan i gydlynu gwybodaeth ei sefydlu ym mhencadlys y Dina, heddlu cudd Tsile, yn Santiago.[2]
Tri cham oedd i'r cynllun: yn gyntaf, i herwgipio, holi, ac arteithio; yn ail, i hwyluso'r cydweithrediad rhwng gwasanaethau cudd-wybodaeth, gan gynnwys rhannu gwybodaeth a chydlynu gwyliadwriaeth; ac yn drydydd, gweithredoedd cudd i ladd gwrthwynebwyr alltud mewn gwledydd tramor.[1] Ymhlith y fath lofruddiaethau oedd Orlando Letelier yn Washington, D.C., Bernardo Leighton a'i wraig yn Rhufain, y Cadfridog Carlos Prats yn Buenos Aires, a chyn-arlywydd Bolifia Juan José Torres yn Buenos Aires. Esgus yr ymgyrch oedd i atal comiwnyddion rhag tanseilio a dymchwel y llywodraeth, ond cafodd nifer o grwpiau eu targedu mewn ymgais i gael gwared â gwrthwynebiad gwleidyddol o bob ochr: undebwyr llafur, arweinwyr y werin, offeiriaid a lleianod, deallusion, newyddiadurwyr, myfyrwyr, ac addysgwyr.[1]
Yn ôl dogfennau a ddigelwyd, cafodd Ymgyrch Condor ei chefnogi gan yr Unol Daleithiau fel cynllun gwrth-derfysgaeth gwrth-gomiwnyddol yn ystod y Rhyfel Oer, a chyd-weithiodd y CIA gyda rhai o luoedd diogelwch De America.[1] Roedd y CIA yn ymwybodol o gynlluniau Condor i dargedu arweinwyr "grwpiau terfysgol" alltud. Rhybudiodd yr Ysgrifennydd Tramor Henry Kissinger, mewn ceblau diplomyddol, i lysgenhadon Americanaidd beidio â chodi'r mater o gamdriniaethau hawliau dynol yn Ne America.
Daeth yr ymgyrch i ben yn niwedd y 1970au o ganlyniad i densiynau mewnol gan y lluoedd diogelwch a gwasanaethau cudd-wybodaeth. Erbyn y 1990au, roedd y llywodraethau i gyd wedi colli grym ar ffordd y cyfandir i ddemocratiaeth. Ystyrir troseddau'r ymgyrch yn enghraifft nodweddiadol o derfysgaeth wladwriaethol.
Ymgyrch Colombo (Tsile)
golyguRhyfel Brwnt yr Ariannin
golygu- Prif: Y Rhyfel Brwnt
"Y Rhyfel Brwnt" (Sbaeneg: Guerra Sucia) yw'r enw a roddir ar ymgyrch y jwnta filwrol a reolodd yr Ariannin o 1976 hyd 1983. Targedodd luoedd milwrol a diogelwch y jwnta grwpiau gerila adain chwith, a thorrwyd hawliau dynol gan gynnwys artaith a llofruddiaethau torfol gan sgwadiau marwolaeth y jwnta. Amcangyfrifir i 10,000–30,000 o Archentwyr gael eu lladd gan y llywodraeth, a nifer ohonynt wedi "diflannu".
Llywodraeth filwrol Brasil
golyguRheolwyd Brasil gan lywodraethau milwrol yn y cyfnod 1964–85, a hawliai'r yr angen i sefydlogi'r wlad a rheoli'r economi trwy greu "gwladwriaeth diogelwch cenedlaethol". Gosododd Brasil fodel i wledydd eraill y Côn Deheuol ei efelychu, drwy ormesu gwrthwynebiad adain-chwith mewn enw'r awdurdodaeth gryf. Cafodd ran Brasil yn Ymgyrch Condor ei gadarnhau gan ddogfennau Adran Wladol yr Unol Daleithiau.[3]
Unbennaeth Alfredo Stroessner (Paragwâi)
golyguUnbennaeth Hugo Banzer (Bolifia)
golyguLlywodraeth sifil-filwrol Wrwgwái
golyguRôl yr Unol Daleithiau
golyguCyfrifoldeb a chyfiawnder
golyguAr 10 Awst 1979, cyhoeddodd y papur newydd El Mercurio (Santiago) fod llofruddiaeth Letelier yn rhan o gynllun gan lywodraethau'r Côn Deheuol i drechu'r adain chwith, dan enw "Condor".[4] Daeth cadarnhâd o'r cynllun i sylw'r byd ym mis Rhagfyr 1992 pan ddarganfu archif o ddogfennau mewn gorsaf heddlu yn Asuncion oedd yn cynnwys manylion am gannoedd os nad miloedd o bobl a gafodd eu herwgipio, eu harteithio, a'u llofruddio.[2] Ers hynny, cyhoeddwyd mwy na 200 o warantau i arestio swyddogion milwrol am eu rhan yn Ymgyrch Condor.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Leslie Alan Horvitz and Christopher Catherwood. Encyclopedia of War Crimes and Genocide (Efrog Newydd: Infobase, 2006), t. 334–5.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Robert Plummer. "Condor legacy haunts South America", BBC (8 Mehefin 2005). Adalwyd ar 1 Hydref 2017.
- ↑ Teresa A. Meade. A Brief History of Brazil, ail argraffiad (Efrog Newydd: Infobase, 2010), t. 162–5.
- ↑ James R. Whelan. Out of the Ashes: Life, Death and Transfiguration of Democracy in Chile, 1833–1988 (Washington, D.C.: Regnery Gateway, 1989), t. 742.
Darllen pellach
golygu- Davis, William Columbus. Warnings from the Far South: Democracy versus Dictatorship in Uruguay, Argentina, and Chile (Efrog Newydd: Praeger Publishers, 1995).
- Dinges, John. The Condor Years: How Pinochet and His Allies Brought Terrorism to Three Continents (Efrog Newydd: New Press, 2004).
- McSherry, J. Patrice. Predatory States: Operation Condor and Covert War in Latin America (Lanham, Maryland: Rowman & Littlefield, 2005).