Ymosodiad Parc Finsbury
Digwyddodd ymosodiad Parc Finsbury, Llundain, ar 19 Mehefin 2017 pan yrrwyd fan yn fwriadol i mewn i gerddwyr Mwslemaidd.
Enghraifft o'r canlynol | ymosodiad terfysgol â cherbyd |
---|---|
Dyddiad | 19 Mehefin 2017 |
Lladdwyd | 1 |
Achos | Islamoffobia |
Lleoliad | Seven Sisters Road |
Collodd un dyn ei fywyd ger Mosg Parc Finsbury - o bosib oherwydd yr ymosodiad. Anafwyd 10 o Fwslemiaid yn ddifrifol hefyd gan y fan, wedi iddynt fod yn gweddio mewn Tarawih, sef cyfarfod gweddi yn adeg Ramadan.[1][2] Ystyriwyd y digwyddiad i ddechrau fel llofruddiaeth ac yna fel digwyddiad terfysgol.[3]
Llogwyd y fan o gwmni Pontyclun Van Hire, Rhondda Cynon Taf. Daliwyd gyrrwr y fan gan y Mwslemiaid, a gwarchodwyd ef rhag niwed gan swyddogion y Mosg, a'i drosgwlwyddo i'r heddlu pan y cyrhaeddon nhw.[4] Enwyd y dyn dan amheuaeth gan yr heddlu: Darren Osborne, 47-oed a thad i bedwar o blant o Gaerdydd, ond a fagwyd yn Weston-super-Mare.[5]
Digwyddodd yr ymosodiad yn etholaeth seneddol yr arweinydd Llafur Jeremy Corbyn. “An attack on a mosque, an attack on a synagogue, an attack on a church is actually an attack on all of us,” meddai Corbyn.[6] Roedd hyn yn dilyn sawl ymosodiad terfysgol tebyg gan gynnwys Pont Llundain a ffrwydriad yn Arena Manceinion.
Ar 1 Chwefror 2018, cafwyd Darren Osborne yn euog o lofruddiaeth ac o geisio llofruddio yn Llys y Goron Woolwich.[7] Ar 2 Chwefror, fe gafodd ei ddedfrydu i garchar am oes, ac i dreulio o leiaf 43 o flynyddoedd dan glo.[8]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Van Hits Pedestrians Near a Mosque in London, Killing One, New York Times, 18 Mehefin 2017
- ↑ "LATEST: Incident in Finsbury Park". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-06-19. Cyrchwyd 19 Mehefin 2017.
- ↑ Malkin, Bonnie (19 Mehefin 2017). "Finsbury Park: casualties as van crashes into pedestrians near London mosque – live updates". The Guardian. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help) - ↑ Sharman, Jon (19 Mehefin 2017). "Finsbury Park mosque attack: Imam 'protected van driver' from angry public after crash". The Independent. Cyrchwyd 19 Mehefin 2017.
- ↑ "Finsbury Park attack suspect named as Darren Osborne". BBC News. 19 Mehefin 2017. Cyrchwyd 19 Mehefin 2017.
- ↑ "Finsbury Park Mosque: Jeremy Corbyn cheered as he speaks to witnesses and emergency services at scene". Unknown parameter
|gwefan=
ignored (help); Unknown parameter|adalwyd=
ignored (help) - ↑ "Finsbury Park: Darren Osborne yn euog", Golwg360 (1 Chwefror 2018). Adalwyd ar 2 Chwefror 2018.
- ↑ "Oes o garchar i Darren Osborne", Golwg360 (2 Chwefror 2018). Adalwyd ar 2 Chwefror 2018.