Lŵp
Sianel ar-lein traws blatfform ar gyfer cerddoriaeth a diwylliant cyfoes Cymraeg gan S4C yw Lŵp. Fe'i lansiwyd ym mis Awst 2019. Mae'r gwasanaeth i'w weld ar S4C Clic, BBC iPlayer a llwyfannau rhyngrwyd eraill sy'n annibynnol o'r Sianel, fel Youtube, a chyfryngau cymdeithasol megis Facebook, Twitter, TikTok ac ati.[1]
Enghraifft o'r canlynol | gwasanaeth ar-lein |
---|---|
Iaith | Cymraeg |
Dechrau/Sefydlu | 2019 |
Prif bwnc | cerddoriaeth roc, canu gwerin |
Llenwi bwlch a newid pwyslais
golyguCymerodd Lŵp le rhaglen a brand Ochr 1 (cyfres gerddoriaeth gyfoes S4C) gan gymryd pwyslais gwahanol o ran arddull a darpariaeth a chynyddu faint o gerddoriaeth newydd sydd i'w weld ar S4C ar deledu ac ar-lein. Cennad y sianel yw adlewyrchu agweddau gwahanol o sîn gerddoriaeth Gymraeg cyfoes, boed yn ŵyl, cyngerdd fyw, thema benodol neu yn ffocws ar artist. Yn ogystal â cherddoriaeth mae'n trafod gwaith celf, ffotograffiaeth, ffilm a geiriau.
Wrth lansio, dywedodd Rhodri ap Dyfrig, Comisiynydd Cynnwys Ar lein S4C, "Roedden ni'n gweld bwlch yn narpariaeth cerddoriaeth y sianel. Ac er bod cerddoriaeth wedi cael lle amlwg ar Hansh dros y blynyddoedd diwethaf, roedden ni'n gweld bod angen rhaglenni teledu mwy cyson i gyfleu'r hyn sy'n digwydd yn ystod y flwyddyn yn ogystal a chryfhau y cynnwys arlein."[1]
Cydweithio
golyguMae Lŵp wedi cydweithio gydag asiantaethau eraill i hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg a'r sianel. Yn eu plith roedd Focus Wales yn 2022. Mae Focus Wales yn trefnu gŵyl ryngwladol flynyddol yn Wrecsam, mae hefyd yn gwmni nid-er-elw sy'n hyrwyddo artistiaid Cymreig mewn gwyliau showcase ar draws y byd. Gwnaed y cydweithio yma er mwyn cefnogi artistiaid Cymreig i lwyddo yn rhyngwladol.[2] Ymysg y grwpiau cyntaf i elwa o'r cydweithio oedd Adwaith, y band o Gaerfyrddin.
Cynnyrch
golyguMae Lŵp yn comisiynu a darlledu fideos pwrpasol gan gynnwys gan grwpiau fel Bwncath, Adwaith, Ani Glass, HMS Morris, Glain Rhys, Roughion, Meinir Matthias. Er mai cerddoriaeth pop a roc Gymraeg yw'r rhelyw o'r cynnyrch, ceir hefyd darllediadau a fideos gan gerddorion a grwpiau gwerin fel Eve Goodman a Lisa Angharad.[3] Mae hefyd yn darlledu o wyliau cerddorol gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol, Tafwyl yng Nghaerdydd a Gŵyl Ryng-Geltaidd An Oriant yn Llydaw.
Ym mis Awst 2022 bu i un o fideos byrion Lŵp o Ŵyl An Oriant dderbyn ymateb brwd iawn. Roedd y fideo fer ar TikTok Lŵp gynnwys y canwr Gwilym Bowen Rhys a'r Lydawes, Azenor Kallag, yn dweud geiriau ac ymadroddion Cymraeg a Llydaweg gan ddangos mor debyg oeddynt. Bu i'r ffilm fer dderbyn ymateb dda a llawer yn ei rannu.[4] Bu i'r fideo fer ennill dros 138,000 o wylwyr o fewn tridiau i'w rhyddhau.[5]
Gweler hefyd
golyguDolenni allanol
golygu- Sianel Lŵp ar Youtube
- Tudalen Lŵp @LwpS4C ar Twitter
- Tudalen Lŵp ar Facebook
- Platfform Lŵp ar TikTok
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "S4C yn lawnsio Lŵp – mwy o gerddoriaeth ar y sianel". S4C. Awst 2019.
- ↑ "Lŵp S4C a Focus Wales yn cyd-weithio i roi llwyfan lleol a llais rhyngwladol i fandiau Cymru". S4C. Cyrchwyd 17 Mai 2022.
- ↑ "Fideos". Sianel Youtube Lŵp S4C. Awst 2022.
- ↑ "Dysgu 'chydig o Lydaweg yn @FESTIVALLORIENT, gyda @GwilymBowenRhys & Azenor 🌍 #Celtic #Welsh #Breton!". TikTok Lŵp S4C. Cyrchwyd 15 Awst 2022.
- ↑ "This video makes me want to learn Breton 🥰 love to hear the similarities!". Twitter @MharaStarling. 15 Awst 2022.