Ynysforgan
Pentref bychan yng nghymuned Treforys, Sir Abertawe, Cymru, yw Ynysforgan ( ynganiad ). Fe'i lleolir i'r gogledd o ddinas Abertawe fymryn i'r de o Glydach. Rhed yr M4 heibio i'r de o'r pentref.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Treforys |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.678°N 3.914°W |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Mike Hedges (Llafur) |
AS/au | Carolyn Harris (Llafur) |
Gyferbyn ag Ynysforgan ceir Ynysdawe. Roedd gan y ddau le ran amlwg ym mywyd diwylliannol Morgannwg yn yr Oesoedd Canol am fod dau gartref y Tomasiaid yn gorwedd yno, un yn Ynysforgan a'r llall yn Ynysdawe. Yr enwocaf o'r teulu oedd Hopcyn ap Tomas (tua 1350 - 1400au), casglwr llawysgrifau, brudiwr a noddwr beirdd. Yn ôl traddodiad galwodd Owain Glyndŵr am ei gyngor fel brudiwr yn 1403 ac roedd Llyfr Coch Hergest a nifer o lawysgrifau eraill yn ei feddiant.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mike Hedges (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Carolyn Harris (Llafur).[1][2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
Dolen allanol
golygu- (Saesneg) Lluniau o Ynysforgan
Dinas
Abertawe
Trefi
Casllwchwr · Clydach · Gorseinon · Pontarddulais · Treforys · Tre-gŵyr
Pentrefi
Burry Green · Cadle · Crofty · Dyfnant · Fforest-fach · Garnswllt · Y Gellifedw · Y Glais · Llandeilo Ferwallt · Llanddewi · Llangyfelach · Llangynydd · Llanilltud Gŵyr · Llanmorlais · Llanrhidian · Llan-y-tair-mair · Y Mwmbwls · Nicholaston · Oxwich · Pen-clawdd · Pengelli · Pennard · Pentre Poeth · Pont-lliw · Port Einon · Reynoldston · Rhosili · Sgeti · Y Crwys · Ynysdawe · Ynysforgan · Ystumllwynarth