Gellifedw

pentref a chymuned yn Sir Abertawe
(Ailgyfeiriad o Y Gellifedw)

Cymuned a phentref yn ninas Abertawe yw Birchgrove (weithiau: Y Gellifedw ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif yng ngogledd-ddwyrain y sir, tua 6 millir o ganol Abertawe, fymryn i'r gogledd o draffordd yr M4, ac yn agos i'r ffîn gyda Castell-nedd Port Talbot. Mae'r gymuned yn cynnwys pentref Lôn-las a rhan o'r Glais yn ogystal a'r Gellifedw ei hun. Roedd y boblogaeth yn 2001 tua 6,500 ac erbyn 2011 roedd wedi codi i 7,392.

Y Gellifedw
Eglwys Sant Ioan
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAbertawe Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.67°N 3.88°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000561 Edit this on Wikidata
Cod OSSS704981 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMike Hedges (Llafur)
AS/auCarolyn Harris (Llafur)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mike Hedges (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Carolyn Harris (Llafur).[1][2]

Hanes golygu

 
Maen hir carreg Bica
 
Pwll glo Scott, Y Gellifedw.

Arferai'r diwydiant glo fod yn bwysig iawn yma. Agorwyd y pwll glo cyntaf yn 1845, ac yn ddiweddarach dechreuwyd gau arall. Caeodd Glofa Birchgrove yn 1931. Ceir nifer o olion o gyfnodau cynharach, yn cynnwys maen hir o'r enw Carreg Bica ar Fynydd Drumau, tua 3 km i'r gogledd-ddwyrain o Gellifedw.

Addysg yng Nghellifedw golygu

Mae gan Y Gellifedw ysgol uwchradd a dwy ysgol gynradd. Mae'r dair ysgol yn rhai cyhoeddus, cymysg ac yn ddi-gyswllt o enwadau crefyddol. Fodd bynnag, o dan ddeddfwriaeth Prydeinig, rhaid i bob ysgol ddarparu cyfnod o addoli yn ddyddiol.

Agorwyd Ysgol Gyfun Gellifedw ym 1991 ar safle'r hen ysgol. Gwasanaetha ardaloedd Gellifedw, Glais a Chlydach. Serch hynny, mynycha nifer o ddisgyblion ardaloedd Glais a Chlydach ysgol uwchradd arall, Cwmtawe, tra bod disgyblion yn Llansamlet a'r Trallwyn yn mynychu ysgol Gelli Fedw yn hytrach na Chefn Hengoed.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Y Gellifedw (pob oed) (7,392)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Y Gellifedw) (1,022)
  
14.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Y Gellifedw) (6217)
  
84.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Y Gellifedw) (770)
  
25.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]

Dolenni allanol golygu