Ynysoedd y Cefnfor Tawel
rhanbarth daearyddol sy'n cynnwys ynysoedd y Cefnfor Tawel
Ynysoedd y Cefnfor Tawel neu Ynysoedd Môr y De yw'r 20,000 hyd 30,000 o ynysoedd yn y Cefnfor Tawel. Yn draddodiadol, fe'i rhennir i dri grŵp o ynysoedd: Melanesia, Micronesia a Polynesia.
Math | rhanbarth, grŵp o ynysoedd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Cefnfor Tawel |
Melanesia
golyguMae'r ynysoedd hyn yn cynnwys Gini Newydd, y fwyaf o ynysoedd y Cefnfor Tawel, Caledonia Newydd, Ynysoedd Culfor Torres, Fanwatw, Ffiji ac Ynysoedd Solomon.
Micronesia
golyguMae Micronesia ("yr ynysoedd bach") yn cynnwys Ynysoedd Mariana, Gwam, Ynys Wake, Palaw, Ynysoedd Marshall, Ciribati, Nawrw a Gwladwriaethau Ffederal Micronesia.
Polynesia
golyguMae ynysoedd Polynesia yn cynnwys Seland Newydd, ynysoedd Hawaii, Rotuma, Ynysoedd Midway, Samoa, Samoa Americanaidd, Tonga, Twfalw, Ynysoedd Cook, Polynesia Ffrengig ac Ynys y Pasg.