Samoa America

(Ailgyfeiriad oddi wrth Samoa Americanaidd)

Tiriogaeth yr Unol Daleithiau yn ne'r Cefnfor Tawel yw Samoa America neu Samoa Americanaidd (Samöeg: Amerika Sāmoa neu Sāmoa Amelika). Fe'i lleolir yn hanner dwyreiniol Ynysoedd Samoa ym Mholynesia. Mae'r ynysoedd gorllewinol yn ffurfio gwlad annibynnol Samoa (Gorllewin Samoa gynt).

Samoa America
Seal of American Samoa.svg
Arwyddair Samoa, Let God Be First Edit this on Wikidata
Math unincorporated territory, endid tiriogaethol gwleidyddol, ardal ynysol, gwlad, territory of the United States Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôl Ynysoedd Samoa, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
En-us-American Samoa.ogg Edit this on Wikidata
Prifddinas Pago Pago Edit this on Wikidata
Poblogaeth 55,689 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1899 Edit this on Wikidata
Anthem The Star-Spangled Banner, Amerika Samoa Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth Lemanu Peleti Mauga Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC−11:00, Samoa Time Zone Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg, Samöeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Samoa, ystyrir gan yr UE fel gwlad sy'n hafan i bobl sy'n osgoi trethi Edit this on Wikidata
Sir Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Samoa America Samoa America
Arwynebedd 199 ±1 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 765 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 14.29583°S 170.7075°W Edit this on Wikidata
US-AS Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredol Government of American Samoa Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaethol American Samoa Fono Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Governor of American Samoa Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Lemanu Peleti Mauga Edit this on Wikidata
Arian doler yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata

Mae Samoa America'n cynnwys pum ynys folcanig (Tutuila, Aunu'u, Ofu, Olosega a Ta'u) a dau atol (Atol Rose ac Ynys Swains). Tutuila yw'r ynys fwyaf a lleoliad y brifddinas, Pago Pago.

HanesGolygu

Cafodd ynysfor Samoa ei rannu yn ddwy diriogaeth gan Gytundeb Berlin 1899. Cytunwyd i roi ynysoedd y gorllewin i'r Almaen, ynysoedd y dwyrain i'r Unol Daleithiau, a Ffiji i Brydain. Dan ddylanwad pennaeth Llynges yr Unol Daleithiau dros y Cefnfor Tawel, a'i ganolfan yn Pago Pago, gorfodwyd penaethiaid Samoa America i arwyddo dogfennau i ildio'u hynysoedd i'r Unol Daleithiau. Gwnaed Tutuila ac Aunu'u yn "diriogaethau anghorfforedig" Americanaidd ym 1900 a grŵp Manu'a (Ofu, Olosega, Ta'u, Atol Rose, Ynys Swain) ym 1904.

Llwyddodd y llynges i ennill rheolaeth dros y diwydiant copra, a chefnogai'r Eglwys Gynulleidfaol yn erbyn diddordebau'r penaduriaid lleol. Ceisiodd Adran Fewnwladol yr Unol Daleithiau i ymgorffori'r diriogaeth yn y 1950au, a chafodd hyn ei wrthsefyll gan y penadur Tuiasosopo.[1]

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd Samoa America ei milwroli oherwydd ei lleoliad strategol yn y frwydr yn erbyn Japan yn y Cefnfor Tawel. Trigai mwy o filwyr Americanaidd ar yr ynysoedd na Samoaid brodorol. Hyd heddiw, mae Maes Awyr Pago Pago yn cynnal ehediadau ar gyfer awyrennau milwrol, ac hyfforddir milwyr Samoaidd yng Nghanolfan Wrth Gefn Byddin yr Unol Daleithiau.[1]

Ar ddechrau'r 21g, ymdrechodd llywodraeth yr Unol Daleithiau i dynnu Samoa America oddi ar restr y Cenhedloedd Unedig o wledydd sydd heb eu datrefedigaethu.

 
Doc Fagatogo gyda Mynydd Pioa yn y cefndir

CyfeiriadauGolygu

Dolenni allanolGolygu

  1. 1.0 1.1 Dan Taulapapa McMullin, "American Samoa" yn Thomas Benjamin (gol.), Encyclopedia of Western Colonialism since 1450, cyfrol 1 (Farmington Hills, Michigan: Thomson Gale, 2007) t. 44.