Yr Adolygydd

Cylchgrawrn Cymraeg 1850-1853 yn ymdrin â Gwyddoniaeth, Gwleidyddiaeth, Diwiynyddiaeth, Llenyddiaeth, a Materion Cyfoes

Roedd Yr Adolygydd yn gylchgrawn byrhoedlog a gyhoeddwyd rhwng 1850-1853. Galwai ei hyn yn gylchgrawn "trimisol", gan hyrwyddo ei hun fel cyhoeddiad oedd yn trafod; "Gwyddoniaeth, Gwladyddiaeth, Llenyddiaeth, a Chrefydd". Cyhoeddwyd y cylchgrawn yng Nghaerdydd gan W. Owen ac yna yn Llanelli gan Rees a Williams.

Yr Adolygydd
Enghraifft o'r canlynolcylchgrawn, cyfnodolyn Edit this on Wikidata
Daeth i benMehefin 1853 Edit this on Wikidata
CyhoeddwrRees & Williams, William Owen Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddiMehefin 1850 Edit this on Wikidata

Golygydd y cylchgrawn oedd yr awdur a'r ymgyrchydd blaengar a gwladgarol, Ieuan Gwynedd bu hefyd yn olygydd Y Gymraes.[1]

Roedd William Williams (Caledfryn) yn cynorthwyo golygu'r cylchgrawn yn 1850.[2]

Person blaenllaw arall bu'n weithgar gyda sefydlu'r cylchgrawn oedd John Davies a aeth ymlaen wedyn i olygu Y Beirniad.[3] Yn dilyn marwolaeth Ieuan Gwynedd penodwyd Edward Roberts (1816-1887), Gweinidog gyda'r Annibynwyr, ymgyrchydd dros addysg i blant a dyn arall a hannai o'r Brithdir, yn olygydd y cylchgrawn.[4]

Cynnwys golygu

Roedd ystod cynnwys y cylchgrawn yn cynnwys, fel enghraifft o'r rhifyn gyntaf: Diwygiad Protestanaidd Switzerland, Holl-dduwiaeth yr Almaen, India, Eisteddfod Aberffraw, Helyntion yr Amseroedd, Syr Robert Peel, Pryddest yn lle Awdl - Awdl Ieuan Ionawr, Y Cyffro Pabyddol.[5]

Rhagor golygu

Teitlau cysylltiol: Y Beirniad (1859-1879)

Mae'r cylchgrawn wedi ei ddigido ac ar wefan Papurau Newydd Cymru Ar-lein y Llyfrgell Genedlaethol Cymru.[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. "JONES, EVAN ('Ieuan Gwynedd'; 1820 - 1852), gweinidog a newyddiadurwr". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 26 Hydref 2023.
  2. "William Williams (Caledfryn)". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 26 Hydref 2023.
  3. "John Davies (1832-1874)". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 26 Hydref 2023.
  4. "ROBERTS, EDWARD (1816 - 1887), gweinidog Annibynnol". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 26 Hydref 2023.
  5. "Yr Adolygydd". Papurau Newydd Cymru Ar-lein. Mawrth 1851. Cyrchwyd 26 Hydref 2023.
  6. "Yr Adolygydd". W. Owen. Cyrchwyd 26 Hydref 2023.

Dolenni allanol golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.