Y Beirniad (1859-1879)
Roedd Y Beirniad yn gylchgrawn llenyddol chwarterol, Cymraeg ei iaith, a oedd yn cyhoeddi erthyglau ar lenyddiaeth, gwyddoniaeth, gwleidyddiaeth, addysg a diwinyddiaeth. Bu'n cyhoeddi rhwng Gorffennaf 1859 ac Hydref 1879.[1] Peidied â drysu â chylchgrawn hwyrach o'r un enw, Y Beirniad a olygwyd gan John Morris-Jones.
Enghraifft o'r canlynol | cylchgrawn, cyfnodolyn |
---|---|
Cyhoeddwr | Rees & Williams |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | Gorffennaf 1859 |
Daeth i ben | Hydref 1879 |
Lleoliad cyhoeddi | Llanelli |
- peidied drysu ag Y Beirniad 1911-1917
Hanes y cyhoeddiad
golyguGolygwyd y cylchgrawn yn gyntaf ar y cyd gan y gweinidog Annibynnol, John Davies (1823-1874) a fagwyd yng Nghapel Sardis gen Llanymddyfri a bu'n Weinidog mewn capeli yn Llanelli (sir Frycheiniog ar y pryd), 1846, Aberaman, 1854, Mount Stuart (Caerdydd), 1863, a Hannah Street (Caerdydd), 1868-74. Cyhoeddodd Y Doniau Gwyrthiol, 1851, i wrthweithio dylanwad y Mormoniaid yng Nghymru. Bu'n gysylltiedig â'r Gwron Odyddol a'r Gwladgarwr, a bu iddo hefyd chwarae ran flaenllaw yn y gwaith o gychwyn Yr Adolygydd, 1850.[2]
Yn cydweithio ar y cyhoeddiad gyda Davies oedd William Roberts (1828-1872), athro yng Ngholeg yr Annibynwyr, Aberhonddu.
Yna, gan Davies rhwng 1872 a 1874, ac wedi ei farwolaeth gan y gweinidog Annibynnol, John Bowen Jones (1829-1905) a hannau o Llanwenog, Ceredigion a bu'n bregethwr yn ardal Penybont-ar-Ogwr ac yn ogystal â bod yn un o gychwynwyr Y Beirniad, a bu'n golygu Cennad Hedd (1866-1903). Cyhoeddodd Y Blodeuglwm, 1876, a golygodd Casgliad o Hen Emynau (1877 a 1883).[3]
Cyhoeddwyd yn Llanelli gan Rees a Williams.
Cynnwys
golyguFel enghraifft o ystod eang cynnwys y cylchgrawn, yn y rhifyn cyntaf o'r Beirniad, cafwyd erthyglau ar; Gristnogaeth, Anianaeth Ddynol, Ymborth Anifail, Diwygio Senedd San Steffan, Argraffiadau'r Parch. W Ellis ar ynys Madagasgar, cyfandir Affrica, Ysgolion Gruffudd Jones Llanddowror, Cyfarfodydd Mawrion Mai, 'Helynt yr Amseroedd'.[4]
Rhagor
golyguTeitlau cysylltiol: Yr Adolygydd (1850).
Mae'r cylchgrawn wedi ei ddigido ac ar wefan Papurau Newydd Cymru Ar-lein y Llyfrgell Genedlaethol Cymru.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Jones (Gwenallt), Thomas Morris (1893). . Llenyddiaeth Fy Ngwlad. Treffynnon: P M Evans. t. 120.
- ↑ "John Davies (1832-1874)". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 26 Hydref 2023.
- ↑ "JONES, JOHN BOWEN (1829 - 1905), gweinidog Annibynnol". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 26 Hydref 2023.
- ↑ "Y Beirniad, Gorphennaf 1859". Y Beirniad. Gorffennaf 1859.
- ↑ "Y Beirniad". Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 26 Hydref 2023.
Dolenni allanol
golygu