Yr Amgueddfa
Cyfres ddrama deledu Cymraeg
Rhaglen ddrama Gymraeg yw Yr Amgueddfa sydd wedi ei leoli yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd. Creuwyd a sgriptiwyd y gyfres gan Fflur Dafydd ac fe'i gynhyrchwyd gan Boom Cymru.
Yr Amgueddfa | |
---|---|
Genre | Drama |
Serennu | Nia Roberts Steffan Rhodri Steffan Cennydd |
Gwlad/gwladwriaeth | Cymru |
Iaith/ieithoedd | Cymraeg |
Nifer cyfresi | 2 |
Nifer penodau | 12 (Rhestr Penodau) |
Cynhyrchiad | |
Cynhyrchydd gweithredol |
Jon Williams |
Cynhyrchydd | Paul Jones |
Golygydd | Dafydd Hunt |
Lleoliad(au) | Caerdydd |
Sinematograffeg | Paul Andrew |
Amser rhedeg | 60 munud |
Cwmnïau cynhyrchu |
Boom Cymru |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | S4C |
Fformat llun | 1080i (16:9 HDTV) |
Darllediad gwreiddiol | 30 Mai 2021 |
Dolenni allanol | |
Proffil IMDb |
Disgrifwyd y ddrama gan S4C fel thriller cadwraethol, sydd yn datguddio byd tywyll a pheryglus trosedd celf. Cychwynwyd ffilmio'r gyfres yn Ionawr 2021, gyda'r darllediad cyntaf ar ddiwedd Mai 2021. Fe'i darlledwyd yn y slot ddrama arferol am 9pm nos Sul.[1]
Ar 26 Rhagfyr 2022, rhyddhawyd holl benodau yr ail gyfres i'w ffrydio ar Clic ac iPlayer. Dangoswyd yr ail gyfres yn wythnosol ar S4C gan gychwyn o nos Sul, 1 Ionawr 2023.
Cast
golygu- Nia Roberts - Della Howells
- Steffan Rhodri - Alun, gwraig Della
- Samuel Morgan-Davies - Daniel, mab Della
- Mared Jarman - Marged (Mags), merch Della
- Steffan Cennydd - Caleb
- Hanna Jarman - Sadie
- Sharon Morgan - Elinor
- Scott Rose-Marsh - Pete
- Mali Tudno Jones - Lisa
- Lisa Victoria - Kay
- Simon Watts - Elfryn
- Delyth Wyn - Fioled
- Ieuan Rhys - Gareth
- Alun ap Brinley - Lloyd
- Richard Elfyn - Byron
- Mabli Gwynne - Teleri
- Oliver Williams - Caleb ifanc
Penodau
golyguCyfres 1
golygu# | Teitl | Cyfarwyddwr | Awdur | Darllediad cyntaf | Gwylwyr [2] |
---|---|---|---|---|---|
1 | "Pennod 1" | Rhys Powys | Fflur Dafydd | 30 Mai 2021 | o dan 17,000 |
Drama yn olrhain cwymp hunan ddinistriol Della Howells, Cyfarwyddwr Amgueddfa yn ei 40au sy'n dechrau perthynas beryglus gyda dyn ifanc, ac yn disgyn o fod yn ddynes dosbarth canol barchus i fod yn rhan o is-fyd troseddol y byd celf. | |||||
2 | "Pennod 2" | Rhys Powys | Fflur Dafydd | 6 Mehefin 2021 | o dan 19,000 |
Wrth i Della Howells gychwyn ar ei swydd newydd fel Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Amgueddfa, mae ei pherthynas cymhleth gyda Caleb yn dwyshau. Beth yw cymhellion Caleb wrth iddo feithrin perthynas gyda Della a'i mab, Daniel, ar yr un pryd? | |||||
3 | "Pennod 3" | Rhys Powys | Fflur Dafydd | 13 Mehefin 2021 | o dan 17,000 |
Mae perthynas Della a Caleb yn dwysau. Yn ystod ymweliad boreol Della â chartref Caleb, pwy sy'n galw heibio'n gwbl ddirybudd ond Daniel, ei mab. Am ba mor hir mae'r ddau gariad yn mynd i fedru cadw eu perthynas yn gyfrinach? | |||||
4 | "Pennod 4" | Rhys Carter | Fflur Dafydd | 20 Mehefin 2021 | o dan 17,000 |
Mae perthynas Della a Caleb yn dwysau. Yn ystod ymweliad boreuol Della â chartref Caleb, pwy sy'n galw heibio'n gwbl ddirybudd ond Daniel, ei mab. Am ba mor hir mae'r ddau gariad yn mynd i fedru cadw'u cyfrinach. | |||||
5 | "Pennod 5" | Rhys Carter | Fflur Dafydd | 27 Mehefin 2021 | o dan 16,000 |
Mae bywyd Della yn dirywio ymhellach. Wedi iddi gweryla â Sadie, mae ei ffrind gorau yn rhedeg at Elfryn, sydd yn datgelu cyfrinach fawr am ddilysrwydd un o luniau mwyaf gwerthfawr yr Amgueddfa. | |||||
6 | "Pennod 6" | Rhys Carter | Fflur Dafydd | 4 Gorffennaf 2021 | 25,000 |
Mae byd a bywyd Della bellach yn ddeilchion o'i chwmpas. Wedi bradychu ei gwr a'i mab, mae'n gorfod gadael ei chartref - ond nid cyn gwneud darganfyddiad ysgytwol. |
Cyfres 2
golygu# | Teitl | Cyfarwyddwr | Awdur | Darllediad cyntaf | Gwylwyr [2] |
---|---|---|---|---|---|
1 | "Pennod 1" | Rhys Powys | Fflur Dafydd | 1 Ionawr 2023 | I'w gyhoeddi |
Mae Della bellach wedi gadel ei swydd yn yr Amgueddfa yng Nghaerdydd ac wedi cychwyn ar secondiad i Amgueddfa fechan Sir Gâr. Mae Caleb a Della wedi symud i fyw i dy rent dafliad carreg o'u gwaith. Mae rhuthr bywyd yn dipyn arafach yng nghefn gwlad Cymru, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn sut mae'r Amgueddfa fechan wedi bod yn cael ei rhedeg. Mae Heddwyn y Curadur yn gweithio mewn ffordd wahanol iawn i Della. | |||||
2 | "Pennod 2" | Rhys Powys | Fflur Dafydd | 8 Ionawr 2023 | I'w gyhoeddi |
Mae'r dŵr yn rhedeg yn ddu yng nghartref newydd Della a Caleb ac mae yna swn annaearol yn tarddu o'r pibau hefyd, tra bod dwr sy'n ymddangos ar lawr yr atig yn llythrennol mynd a dod. Mae Elinor yn cael ei chyflwyno i Heddwyn ac mae'r ddau yn cymryd diddordeb mawr yn ei gilydd, ond ydy Heddwyn, sydd â chof ffotograffig, wedi cyfarfod ag Elinor o'r blaen' | |||||
3 | "Pennod 3" | Rhys Powys | Llinos Gerallt / Fflur Dafydd | 15 Ionawr 2023 | I'w gyhoeddi |
Mae Clogyn Aur Yr Wyddgrug ar ei ffordd o'r Amgueddfa Brydeinig i Amgueddfa fechan Sir Gar. Ydy hwn am fod yn benderfyniad doeth i'r sefydliad o ystyried hanes Della gyda chreiriau amhrisiadwy' | |||||
4 | "Pennod 4" | Rhys Carter | Elgan Rhys / Fflur Dafydd | 22 Ionawr 2023 | I'w gyhoeddi |
Mae Della a Glyn yn aros yn bryderus i'r Clogyn Aur gyrraedd ar ddiwedd ei siwrne o Lundain ond mae un unigolyn arall yn aros yr un mor eiddgar i weld y clogyn amhrisiadwy'n cyrraedd yr Amgueddfa - Fioled. | |||||
5 | "Pennod 5" | Rhys Carter | Llinos Gerallt / Fflur Dafydd | 29 Ionawr 2023 | I'w gyhoeddi |
Tybed bellach os yw Della'n difaru symud o Gaerdydd i'r Amgueddfa yng Nghaerfyrddin' Mae'r Rembrandt enwog hefyd wedi ei dilyn i Gaerfyrddin, ac wedi dod i glawr yn nhy Heddwyn. | |||||
6 | "Pennod 6" | Rhys Carter | Fflur Dafydd | 15 Chwefror 2023 | I'w gyhoeddi |
Y bennod olaf ac angladd Heddwyn. Mae'r teulu wedi gofyn i Della neud y deyrnged. A fydd Della'n gallu ymdopi o ystyried beth ddigwyddodd y tro diwethaf iddi weld Heddwyn yn fyw' |
Cyfeiriadau
golyguDolenni allanol
golygu- (Saesneg) Yr Amgueddfa ar wefan Internet Movie Database
- Yr Amgueddfa ar y BBC iPlayer