Steffan Cennydd
Actor o Gymro yw Steffan Cennydd (ganwyd 1995).
Steffan Cennydd | |
---|---|
Ganwyd | 1995 Caerfyrddin |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor ffilm |
Bywgraffiad
golyguMagwyd Steffan yn Llangynnwr ger Caerfyrddin a mynychodd Ysgol Gyfun Bro Myrddin. Bu'n aelod o Ysgol Berfformio Dyffryn Tywi rhwng 10 a 15 oed lle cafodd ei brofiad cyntaf o actio. Enillodd wobr Richard Burton yn Eisteddfod Genedlaethol 2014.[1]
Aeth i astudio yn Ysgol y Guildhall, Llundain. Yn ystod ei gyfnod yn y coleg, perfformiodd mewn nifer o gynyrchiadau drama yn cynnwys chwarae Michael Lloyd yn August, addasiad Julian Mitchell o Uncle Vanya gan Chekhov, rhan Scott yn Herons gan Simon Stephens a rhan Bela Zangler yn sioe gerdd haf y coleg, Crazy For You. Cynrychiolodd y coleg yng Ngŵyl Sam Wanamaker Festival yn Theatr y Glôb a cystadlodd yn rownd derfynol Gwobr Michael Bryant yn y National Theatre. Yn 2017 enillodd wobr fawreddog y coleg, y Wobr Aur am Actio.[2] Graddiodd o'r Coleg yng Ngorffennaf 2017 gyda Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf.[3]
Gyrfa
golyguEi ran cyntaf ar ffilm oedd Kevin yn y ffilm Gymreig Last Summer.[3] Yn 2019 ymddangosodd yn y gyfres ddrama Enid a Lucy. Am y rhan yma fe'i enwebwyd yn y categori Torri Trwodd yng ngwobrau BAFTA Cymru 2019.[4] Ymddangosodd hefyd yn 2il gyfres Craith.[5]
Yn 2021 ymddangosodd mewn prif ran yn Yr Amgueddfa, cyfres ddrama gan Fflur Dafydd.[6] Yr un flwydd, chwaraeodd ran Guto yn y ffilm arswyd Gymraeg Gwledd.
Ffilmyddiaeth
golyguFfilm
golyguBlwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
---|---|---|---|
2018 | Last Summer | Kevin Morris | |
2021 | Gwledd | Guto | |
2021 | Sweetheart | Nathan |
Teledu
golyguBlwyddyn | Teitl | Rhan | Cynhyrchiad | Nodiadau |
---|---|---|---|---|
2019 | Enid a Lucy | Denfer | S4C | |
2019 | Craith | Connor Pritchard | S4C | 2il gyfres |
2021 | The Pembrokeshire Murders | Jack Wilkins | ITV | Drama ffeithiol |
2021 | Yr Amgueddfa | Caleb | S4C | |
2024 | Criminal
Record |
DC Jed
Stanning |
Apple TV | Drama
ffuglen |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Steffan to appear in major new S4C drama .
- ↑ The Guildhall School of Music & Drama announces the Gold Medal winners for Acting and Technical Theatre 2017. Guildhall School of Music & Drama (16 Awst 2017). Adalwyd ar 28 Mai 2020.
- ↑ 3.0 3.1 Watermill Theatre - Under Milk Wood. Adalwyd ar 28 Mai 2020.
- ↑ 23 o enwebiadau BAFTA Cymru i S4C , S4C.
- ↑ Steffan Cennydd (Connor Pritchard). BBC (3 Chwefror 2020). Adalwyd ar 28 Mai 2020.
- ↑ Yr Amgueddfa yn agor y drws ar fyd tywyll a pheryglus. S4C (7 Ionawr 2021). Adalwyd ar 27 Mai 2021.
Dolenni allanol
golygu- Steffan Cennydd ar wefan Internet Movie Database