Yr Archifau Cenedlaethol

Yr archif swyddogol a'r cyhoeddwr ar gyfer Llywodraeth y DU ac ar gyfer Lloegr a Chymru ydy'r Archifau Cenedlaethol (Saesneg: The National Archives). Mae'n adran anweinidogol Llywodraeth y DU; fe'i noddir gan yr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon. Mae gan yr Alban a Gogledd Iwerddon archifau cenedlaethol ar wahân, sef Cofnodion Gwladol yr Alban a Swyddfa Cofnodion Cyhoeddus Gogledd Iwerddon.

Yr Archifau Cenedlaethol
Matharchifdy cenedlaethol, adran anweinidogol o'r llywodraeth Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Llundain Richmond upon Thames
Agoriad swyddogolEbrill 2003 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • Ebrill 2003 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadKew Edit this on Wikidata
SirLlundain Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.48106°N 0.2797°W Edit this on Wikidata
Map

Crëwyd yr Archifau Cenedlaethol ym mis Ebrill 2003 trwy gyfuno'r Archifdy Gwladol a'r Comisiwn Llawysgrifau Hanesyddol. Ym mis Hydref 2006 cyfunodd â'r Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus, a oedd yn cynnwys Llyfrfa Ei Mawrhydi. Ers mis Rhagfyr 2008 mae hefyd wedi cynnal Cronfa Ddata Cyfraith Statud y DU.

Mae pencadlys yr Archifau Cenedlaethol wedi'i leoli yn Kew, Llundain Fwyaf. Mae ganddynt swyddfa arall yn Norwich, Dwyrain Lloegr, ac mae rhai o'u cofnodion wedi'u storio'n ddiogel yng Nghloddfa Halen Winsford, Winsford, Swydd Gaer, Gogledd-orllewin Lloegr.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Deepstore Records Management; adalwyd 8 Rhagfyr 2017.

Dolen allanol golygu