Yr Hob (cwmwd)
Cwmwd canoloesol oedd Yr Hob, yng ngogledd-ddwyrain Cymru ger y ffin â Lloegr.
Yn wreiddiol, roedd Yr Hob yn rhan o hen gantref Ystrad Alun ac yn rhan o deyrnas Bowys. Bu Ystrad Alun ym meddiant Powys Fadog am gyfnodau yn y 12g ond bu hefyd dan reolaeth teyrnas Gwynedd fel rhan o'r Berfeddwlad (Gwynedd Is Conwy).
Ffiniai'r cwmwd â chymydau Penarlâg ac Ystrad Alun (Yr Wyddgrug) i'r gogledd, Maelor Gymraeg i'r de a rhan o Iâl i'r gorllewin. I'r dwyrain roedd Afon Dyfrdwy yn dynodi'r ffin rhwng Yr Hob a Swydd Gaer yn Lloegr.
Prif ganolfan filwrol Yr Hob oedd Castell Caergwrle ('Castell Yr Hob').
Ynghyd â chantrefi Dyffryn Clwyd a Rhufoniog, rhoddwyd Yr Hob i Ddafydd ap Gruffudd yn 1277.
Wedi Statud Rhuddlan yn 1282, daeth y cwmwd yn rhan o'r Sir y Fflint newydd. Heddiw mae'r ardal yn rhan o Fwrdeistref Sirol Wrecsam.