Ymerodraeth y Mongol

(Ailgyfeiriad o Yr Ymerodraeth Fongolaidd)

Roedd Ymerodraeth y Mongol yn un o'r ymerodraethau mwyaf yn hanes y byd. Deilliodd o uniad y Mongoliaid a'r llwythau Twrcaidd yn yr hyn sydd heddiw yn wlad Mongolia. Cyhoeddwyd Genghis Khan yn rheolwr yr holl Fongoliaid yn 1206.

Tŵf Ymerodraeth y Mongol

Yn y cyfnod yma, roedd Tsieina wedi ei rhannu yn bedair teyrnas. Ymosododd Ghengis Khan ar Hsi-hsia neu Xixia. Erbyn 1214 roedd wedi cyrraedd Beijing, a’r flwyddyn wedyn cipwyd y ddinas gan un o’i gadfridogion. Wedi hyn, dychwelodd i Mongolia, lle enillodd fuddugoliaethau pellach, gan ymestyn y ffin hyd at y teyrnasoedd Islamaidd yn y gorllewin. Erbyn 1223 roedd wedi gorchfygu teyrnas Jwarizm.

Erbyn 1279, roedd Ymerodraeth y Mongol yn ymestyn dros 33000000 km2, 22% o arwynebedd y ddaear, ac yn cynnwys poblogaeth o dros 100 miliwn o bobl. Fodd bynnag, erbyn hynny roedd wedi dechrau ymrannu, gyda'r Llu Aur a Khaniaeth Chagatai i bob pwrpad yn annibynnol ac yn gwrthod derbyn Kublai Khan fel Khagan. Erbyn marwolaeth Kublai Khan, roedd wedi ymrannu'n bedair rhan.

Eginyn erthygl sydd uchod am Fongolia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.