Yr Yspïwr
Papur newydd yn yr iaith Gymraeg oedd Yr Yspïwr neu Yr Yspiwr (sic yn yr argraffiadau ohono). Cafodd ei gyhoeddi o 1843 hyd 1844. Ei deitl llawn oedd:
Enghraifft o'r canlynol | cyfnodolyn, cylchgrawn |
---|---|
Rhan o | Cylchgronau Cymru Ar-lein |
Dyddiad cyhoeddi | 27 Ebrill 1843 |
Lleoliad cyhoeddi | Llangollen |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
- Yr Yspiwr, sef Adroddwr Newyddion a Rhyfeddodau o bob math
Roedd yn cael ei gyhoeddi bob pythefnos ar ffurf llyfryn bach wyth dudalen, ac ar werth am geiniog. Y cyhoeddwr a golygydd oedd y Parch. Hugh Jones o Langollen. Ceisiai roi argraff o ddigwyddiadau mawr y byd i'r werin. Ond dim ond 83 rhifyn a gyhoeddwyd, yr olaf ar 3 Awst, 1844.
Ffynhonnell
golygu- T.M. Jones (Gwenallt), Llenyddiaeth Fy Ngwlad (P.M. Evans a'i Fab, Treffynnon, 1893), tt. 18-19.