Ysbyty Cyffredinol Llandudno
Ysbyty cyffredinol ar safle ar gyrion Llandudno, bwrdeistref sirol Conwy, yw Ysbyty Cyffredinol Llandudno. Mae'n cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth Iechyd Gogledd Orllewin Cymru fel rhan o GIG Cymru ac yn cydweithredu'n agos ag Ysbyty Gwynedd, Bangor.
Math | ysbyty |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.31°N 3.83°W |
Cod OS | SH783809 |
Rheolir gan | Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr |
Dros y blynyddoedd diwethaf cafwyd sawl bygythiad i gwtogi ar wasanaethau'r ysbyty a'i israddio i fod yn ysbyty cymuned, gyda'r bwriad o drosglwyddo rhai gwasanaethau arbenigol i Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Glan Clwyd. Bu ymateb chwyrn i hynny yn lleol. Ymgyrchodd Gareth Jones, Aelod Cynulliad Conwy ac eraill i'w achub a chafwyd datganiad ym mis Mawrth 2008 gan Edwina Hart fod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ailystyried ei chynlluniau a bod dyfodol yr ysbyty yn ddiogel am rŵan.