Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James
Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg ym Mhontypridd yn Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.[1]
Enghraifft o'r canlynol | ysgol Gymraeg, ysgol gynradd |
---|---|
Lleoliad | Pontypridd |
Rhanbarth | Rhondda Cynon Taf |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn 2024 roedd ganddi 299 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol, sy'n cynnwys 58 plentyn meithrin amser llawn. Cânt eu haddysgu mewn naw dosbarth. Mae un o’r rhain yn ddosbarth ar gyfer plant oed meithrin ac mae dau ddosbarth yn cynnwys disgyblion o oed cymysg. Daw 24.9% o ddisgyblion o gartrefi lle siaredir Cymraeg ar yr aelwyd ac mae tua 2% o gefndir lleiafrifol ethnig neu gymysg.[2] Cyfeiriad yr ysgol yw Ffordd y Rhondda, Pontypridd CF37 1HQ.
Roedd dalgylch yn cynnwys tref Pontypridd a mannau cyfagos. Nid yw'n glir beth fydd effaith cau Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton yng Ngorffennaf 2024 ar yr ysgol ac agor ysgol newydd Ysgol Gynradd Gymraeg Awel Taf i'r de o'r dref ym mis Medi 2024 ar niferoedd yr ysgol a'i dalgylch.
Enwyd yr ysgol ar ôl Evan James, (Ieuan ap Iago), awdur geiriau'r anthem genedlaethol, Hen Wlad fy Nhadau. Mae darluniad o gofeb Evan a'i fab, James, enwog sydd i'w gweld yn Ynys Angharad yn y dref, yn llunio arwyddlun yr ysgol gyda'r geiriau adnabyddus, "O bydded i'r heniaith barhau" yn arwyddair yr ysgol.[3]
Dolenni allanol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Adroddiad Estyn, Estyn, 2024, https://www.estyn.llyw.cymru/darparwyr/ysgol-g-g-evan-james-cy/, adalwyd 1 Tachwedd 2024
- ↑ Adroddiad Estyn, Estyn, 2024, https://www.estyn.llyw.cymru/darparwyr/ysgol-g-g-evan-james-cy/, adalwyd 1 Tachwedd 2024
- ↑ "Ysgol Pwy?". BBC Cymru Fyw. 3 Medi 2017. Cyrchwyd 1 Tachwedd 2024.