Ysgol Gynradd Llandegfan

ysgol gynradd Gymraeg ar Ynys Môn

Ysgol gynradd yn Llandegfan, Môn, yw Ysgol Gynradd Llandegfan. Mae yn nalgylch Ysgol David Hughes, Porthaethwy.

Ysgol Gynradd Llandegfan
Mathysgol gynradd, ysgol Gymraeg Edit this on Wikidata
LL-Q9309 (cym)-Calab22-Ysgol Gynradd Llandegfan (Q51277176).wav Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadPorthaethwy Edit this on Wikidata
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.24372°N 4.1465°W Edit this on Wikidata
Cod postLL59 5UW Edit this on Wikidata
Map

Mae 162 o ddisgyblion yn mynd yno a mae hi yn ysgol cyfrwng Cymraeg. Pennaeth yr ysgol yw Dewi Hood.

Mae Ysgol Llandegfan yn gwasanaethu pentref Llandegfan a'r cylch gwledig cyfagos.

Ceir disgyblion hefyd sydd yn teithio o'r tu allan i ddalgylch naturiol yr ysgol.

Mae'r ysgol yn gwasanaethu cymuned eang ag iddi amrywiaeth ieithyddol a chymdeithasol. Agorwyd yr ysgol bresennol yn 1972, ond mae addysg wedi ei darparu yn y pentref ers canrif a mwy yn yr hen ysgol sydd wedi ei lleoli rhyw ddau gan metr o'r ysgol bresennol.

Dyma'r unig adeilad ysgol o'i math ym Mhrydain ac enillwyd gwobrau oherwydd y bensaerniaeth.[1]

Ceir cyfleodd addysg gwahanol oherwydd lefelau amryiol yr adeiliad. Bellach mae yma estyniad newydd sy'n cattrefiu plant Cyfnod Sylfaen yr Ysgol, Y Mudiad Ysgolion Meithrin, Y Cylch Chwarae a'r Clwb Plant ar ôl Ysgol.

Ceir defnydd eang o`r caeau chwarae sy'n addas i nifer o wahanol chwaraeon—yn ogystal â chorneil i arddio a hybu bywyd gwyllt, sy'n rhan annatod o ethos yr ysgol iach ac yn ysgol werdd. Gwnaiff y gymuned ehangach hefyd ddefnydd o dir yr ysgol.

Derbynnir disgyblion i'r ysgol yn unol a Pholisi Mynediad yr Awdurdod.

Siarter Iaith Gymraeg Ynys Môn golygu

Mae'r ysgol yn cydweithio gyda Chyngor Ynys Môn i hybu defnydd addysgol a chymdeithasol o'r iaith Gymraeg drwy'r Siarter Iaith. Hanfod y siarter ydi annog a gwobrwyo'r ysgolion sy'n llwyddo i greu agwedd bositif tuag at yr iaith a chynyddu defnydd o'r Gymraeg ymysg y plant.

Prosiect Ysgolion Gwyrdd-eco Sgolion golygu

Mae'r ysgol wedi gwneud cryn dipyn i godi ymmwybyddiaeth y plant o faterion gwyrdd- megis sefydlu sgwad sbwriel, gosod blychau ailgylchu ym mhob dosparth, garddio, gwneud arolwg o'r ffyrdd y mae'r plant yn teithio i'r ysgol, arbed ynni a gwneud arolwg o'r cemegau sy'n cael eu defnyddio gan y gwasanaethau arlwyo a glanhau.

Cyfeiriadau golygu