Ysgol Tan-yr-Eos
Ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Cymraeg yn ardal Grangetown, Caerdydd oedd Ysgol Tan-yr-Eos. Y prifathro oedd Mr Rhys Harries,[1] sef prifathro Ysgol Gymraeg Treganna. Câi'r ddwy ysgol eu rhedeg ar y cyd.
Ysgol Tan-yr-Eos | |
---|---|
Sefydlwyd | 2006 |
Caewyd | 2013 |
Math | Cynradd, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Cymraeg |
Pennaeth | Mr Rh G Harries |
Lleoliad | Virgil Street, Grangetown, Caerdydd, Cymru, CF11 8TF |
AALl | Cyngor Caerdydd |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 4–11 |
Sefydlwyd Ysgol Tan-yr-Eos yn 2006, ar safle ysgol Saesneg Ysgol Gynradd Parc Ninian; erbyn 2009, roedd yr ysgol Gymraeg yn defnyddio pedwar dosbarth dros dro ar y safle.[2] Erbyn 2011, roedd y nifer hwnnw wedi cynyddu i chwech.[3]
Yn 2012 cafodd yr ysgol ei hadolygu gan Estyn. Nodwyd bod ei pherfformiad presennol a'i rhagolygon gwella yn 'dda'.[4].
Caewyd yr ysgol yn 2013, pan oedd y disgyblion hynaf ym mlwyddyn 5. Trosglwyddwyd y plant i safle newydd Ysgol Treganna. Bellach nid oes darpariaeth Gymraeg yn Grangetown.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ School Details: Ysgol Tan-yr-Eos. Cyngor Caerdydd. Adalwyd ar 3 Chwefror 2010.
- ↑ ADRODDIAD CYFFREDINOL Y LLYWODRAETHWYR I RIENI 2008-2009. Ysgol Gymraeg Treganna (2009).
- ↑ ADRODDIAD CYFFREDINOL Y LLYWODRAETHWYR I RIENI 2010-2011. Ysgol Gymraeg Treganna (2011).
- ↑ Adroddiad ar Ysgol Tan-yr-eos, 2012[dolen farw]